Gwyrth ar Stryd Santes Fair
Perfformiadau o 27 Rhagfyr
Rydym yn falch o gadarnhau y gallwn barhau â pherfformiadau A Christmas Carol gyda phellter cymdeithasol o 27 Rhagfyr, yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth. Bydd seddi yn y Brif Theatr yn cael eu hailddyrannu i gyflawni pellter cymdeithasol a bydd archebwyr yn derbyn tocynnau newydd. Mae pob cwsmer wedi cael gwybodaeth fanwl am y camau nesaf dros e-bost. Diolchwn i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.
Caerdydd, 1843. Arian yw’r unig beth sydd gan Scrooge. Mae ganddi lawer ohono. Arian yw’r unig beth y mae erioed wedi ei gael ond nid yw wedi dod â llawenydd iddi erioed. Ond ar Nos Ŵyl Nadolig, bydd hi’n cwrdd â thri ysbryd a fydd yn dysgu’r wers fwyaf pwysig erioed iddi. Erbyn bore’r Nadolig, bydd hi wedi dysgu sut i fyw am y tro cyntaf.
Profwch lawenydd llawn y Nadolig gyda’r cynhyrchiad newydd ysblennydd hwn o addasiad Gary Owen o stori ddyrchafol Dickens a berfformir gan gast eithriadol o gerddorion sy’n actorion.
Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.
Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd.