A Christmas Carol

Crëwyd yn y Sherman Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Gary Owen

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

22 Tach 2024 - 4 Ion 2025
Amrywiaeth o amseroedd

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Oedran: 7+
  • Hyd: Tua 2 awr 15 munud gan gynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’n cynhyrchiad ni o A Christmas Carol wedi ei greu yn arbennig i bawb 7 oed a hŷn. Darganfyddwch fwy yma. Sylwch fod A Christmas Carol yn cynnwys goleuadau strôb, niwl a synau uchel.

Mae’r sioe Nadolig gyda chalon fawr yn ôl!

Mae ei’n sioe hollol drawsnewidiol, tu hwnt o ddoniol ac emosiynol yn ôl gyda chynhyrchiad o A Christmas Carol, fel gwelwyd yn 2021 yn dod yn ôl ar gyfer Nadolig 2024.

“Joe Murphy’s triumphant Dickens redo… Brims with an irresistible festive charm, and looks absolutely gorgeous.” ☆☆☆☆ The Guardian

Dewch gyda ni i strydoedd Caerdydd Fictoraidd y Nadolig hwn, am antur Nadoligaidd tra gwahanol. Mae ein ail-gyflwyniad hudolus, doniol a theimladwy o A Christmas Carol, a welwyd am y tro cyntaf yn 2021, yn dychwelyd y Nadolig hwn yn dilyn galw mawr amdano. Mae A Christmas Carol yn addo adloniant hyfryd dros yr ŵyl i bawb dros 7 oed.

Caerdydd, 1843. Dim ond arian sydd gen Scrooge. Mae ganddi ddigon o arian. Dyna’r cyfan mae hi erioed wedi’i gael ond nid yw erioed wedi dod â hapusrwydd iddi. Ond ar Noswyl Nadolig, mae hi’n cyfarfod tri ysbryd sy’n dysgu iddi’r wers bwysicaf oll. Erbyn bore Nadolig, fe fydd hi wedi dysgu sut i fyw am y tro cyntaf erioed.

Daw addasiad Gary Owen o’r stori glasurol yn fyw gyda phypedau hudolus, set drawiadol a gwisgoedd ysblennydd. Perfformir cynhyrchiad twymgalon a chlodfawr Joe Murphy gan gast o actorion-cerddorion gwych. Mae’r cast yn cynnwys talentau poblogaidd Nadolig yn y Sherman – Hannah McPake, sy’n chwarae rhan Ebbie Scrooge unwaith eto, Keiron Self, sy’n ymddangos am y degfed tro mewn sioe Nadolig y Sherman, ac Owen Alun, a swynodd gynulleidfaoedd y llynedd fel Tinkerbell yn Peter Pan.

Profwch lawenydd y Nadolig yn y Sherman.

“Absolutely brilliant  Cardiff Mummy Says

“We left feeling really happy, festive and with a renewed sense of the real spirit of Christmas.  We Made This Life

“Gary Owen has transformed the Dickens classic A Christmas Carol and has sprinkled it with some Christmas magic and a local twist.” Wales 247

“It truly has something for everyone.   I would rate this production 5 out of 5 stars!” Fairy Powered Productions

“Sherman Theatre’s wonderful adaptation of this timeless tale is easily one of the best things I’ve ever seen in the theatre: charming, hilarious and heart-warming, it’s a perfect Christmas treat for the whole family.” ***** Get The Chance

Profwch lawenydd y Nadolig yn y Sherman.
Pam ddim ychwanegu ychydig bach o hud i’ch ymweliad i’r Sherman? Ychwanegwch Lythyr Sion Corn i’ch archeb i dderbyn llythr gan y dyn mawr eu hun.

Bydd y perfformiadau ar 22 a 23 Tachwedd yn Talwch Beth Fynnwch.

Dehongliad BSL gan Tony Evans (7 Rhagfyr, 2yp).

Gwybodaeth Ysgolion

Meddwl mynd am drip Nadolig eleni? Mae dod a grŵp i Theatr y Sherman yn hawdd. Am fwy o wybodaeth am fanteision dod a grŵp Ysgol i’r Sherman dilynwch y linc yma.

Pris Ysgol: £8

I archebu grŵp ysgol cysylltwch â’n Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900 neu gyrrwch e-bost i box.office@shermantheatre.co.uk

Cast