Yn ystod 2025 bydd ein cynyrchiadau’n cynnig profiadau theatr fyw twymgalon, dramâu pwerus a nosweithiau mas cofiadwy gyda theulu a ffrindiau. Byddwn yn llwyfannu chwe première byd ac yn rhoi cyfle arall i gynulleidfaoedd brofi sioeau diweddar hynod boblogaidd, gyda rhagor o gynyrchiadau i’w cyhoeddi. Bydd ein sioeau’n dod â chynulleidfaoedd ac artistiaid ynghyd drwy bŵer theatr fyw i edrych ar Gymru nawr, i ble ydyn ni’n mynd a sut gyrhaeddon ni yma.
Mae tymor 2025 a Grëwyd yn y Sherman yn cynnwys dramâu newydd gan Rebecca Jade Hammond, Hannah McPake, Gwawr Loader, Jennifer Lunn a Lisa Parry.
Premières Byd:
Hot Chicks gan Rebecca Jade Hammond
Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone
Cyd-gynhyrchiad â Grand Ambition
Cefnogir gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a People’s Postcode Lottery/Postcode Community Trust
21 Mawrth – 5 Ebrill 2025. Ar werth: 6 Rhagfyr
Penlan, Swansea. Nawr.
Yn eu harddegau, mae Ruby a Kyla yn treulio’u nosweithiau yn siop gyw iâr Cheney’s, yn breuddwydio am symud i Vegas a mynd yn feiral. Ar hap maent yn cwrdd â Sadie, merch hŷn, llawer mwy cŵl, ac yn sydyn mae eu breuddwydion am bartïon pwll nofio a rholio mewn doleri o fewn eu cyrraedd… ond am ba bris?
Drama newydd danbaid, ddoniol a chythryblus gan Rebecca Jade Hammond sy’n dangos theatr Gymreig gyfoes ar ei mwyaf craff.
Fe berfformir Hot Chicks yn Theatr y Grand Abertawe hefyd rhwng 16 – 25 Ebrill.
Port Talbot Gotta Banksy
Cyfarwyddwyd gan Paul Jenkins
Cyd-gynhyrchiad â Theatr3
Cefnogir gan National Theatre Studio a gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru
1 – 10 Mai 2025. Ar werth 6 Rhagfyr
Port Talbot. 2018 – Nawr.
Rhagfyr 2018, mae Banksy yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot pan mae un o’i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol gan roi sylw rhyngwladol i’r dref. 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.
Yn yr wythnosau ar ôl i waith celf Banksy ymddangos aeth Paul Jenkins a Tracy Harris o gwmni Theatr3 i siarad â phobl y dref. Fe gychwynnodd eu prosiect fel casgliad o ymatebion i’r Banksy cyntaf i ymddangos yng Nghymru, a dros chwe blynedd fe ddatblygodd yn bortread o gymuned ac yn deyrnged i’w hysbryd a’i gwytnwch. Nawr, daw lleisiau’r gymuned honno i flaen y llwyfan, gyda chast o actorion proffesiynol yn adrodd eu geiriau.
Mae Port Talbot Gotta Banksy yn ddrama newydd bwysig am bobl, pŵer a chelfyddyd stryd. Mae’n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain, yn y ddrama bwerus, deimladwy gair-am-air hon.
Perfformir y ddrama yn y Plaza, Port Talbot; Theatr y Grand, Abertawe; Theatr y Torch Aberdaugleddau a Thŷ Pawb, Wrecsam yn dilyn cyfnod yn Theatr y Sherman.
Alice: Return to Wonderland gan Hannah McPake
28 Tach 2025 – 3 Ion 2026. Ar werth: 22 Tachwedd
Caerdydd. 1947.
Y Nadolig nesaf, bydd Hannah McPake (Tales of the Brothers Grimm) yn mynd â chi ar antur newydd sbon o strydoedd llwm Caerdydd wedi’r rhyfel, i Wonderland, a hynny o gysur eich sedd yn ein Prif Theatr. Ymunwch â ni unwaith eto am sioe Nadolig anhygoel, llawen a thrawiadol, sy’n addas i bawb dros 7 oed.
The Frog Prince / Biwti a Brogs gan Gwawr Loader
Cyfarwyddwyd gan Elin Phillips
Cyd-gynhyrchiad â Theatr Cymru
24 Tach 2025 – 3 Ion 2026. Ar werth: 22 Tachwedd
Tre Melys. Nawr.
Dewch i Stiwdio’r Sherman a chamu i fyd gwbl hudolus gyda fersiwn newydd Gwawr Loader o stori Y Tywysog Broga gan y Brodyr Grimm. Dyma’r cyflwyniad perffaith i hyd theatr fyw i blant bach 3-6 oed. Perfformir The Frog Prince / Biwti a Brogs yn Saesneg ac yn Gymraeg, mewn perfformiadau ar wahân.
Gall cynulleidfaoedd ledled Cymru brofi’r sioe newydd ryfeddol hon gan y bydd hi’n teithio ledled de Cymru cyn ei chyfnod yn Theatr y Sherman dros y Nadolig , ac yn teithio i ogledd a chanolbarth Cymru yn gynnar yn 2026.
The Pilot gan Jennifer Lunn mewn cydweithrediad â chyfranogwyr ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu.
Cyfarwyddwyd gan Francesca Pickard
Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn rhaglen Theatr y Sherman i’r rheiny sy’n 15-18 oed, a wnaed yn bosibl drwy gefnogaeth hael Sefydliad Moondance.
6 – 8 Mawrth 2025. Ar werth 6 Rhagfyr.
Capel Celyn, 2065
Cydweithrediad newydd, arloesol ac ysbrydoledig sy’n uno lleisiau dwy o’n rhaglenni datblygu creadigol allweddol gydag un o ddramodwyr blaenllaw Cymru, i greu The Pilot. Bydd y dramodydd Jennifer Lunn sydd wedi ennill gwobrau, yn cydweithio â charfan gyfredol Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, ein rhaglen i’r rheiny sy’n 15-18 oed, er mwyn datblygu’r ddrama newydd eofn hon a berfformir gan Theatr Ieuenctid y Sherman.
Salem gan Lisa Parry
Cyfarwyddwyd gan Sara Lloyd
Cydweithrediad rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer eu gŵyl NEWYDD, Mai 2025. Dyddiadau union i’w cadarnhau.
Pentre Gwynfryn. Nawr.
Drama ddiweddaraf Lisa Parry (The Merthyr Stigmatist) fydd nawfed cydweithrediad Theatr y Sherman gyda’n partneriaid agos, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a dyma ein comisiwn yn 2025 ar gyfer gŵyl NEWYDD y coleg.
Yn dychwelyd ar ôl galw mawr:
Housemates gan Tim Green
Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade
Cefnogir Housemates gan gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru.
22 Chwefror – 8 Mawrth 2025. Ar werth: 22 Tachwedd
Cathays, Caerdydd. 1973.
Mae Housemates yn ôl yn 2025, yn sgil galw mawr. Fe wnaeth cyflwyniad Tim Green o stori anhygoel a ddigwyddodd ond metrau o ddrysau’r Sherman ryfeddu cynulleidfaoedd ac ennill canmoliaeth frwd gan adolygwyr yn 2023. Dyma stori am ffrindiau a sbardunodd chwyldro a ddaeth â gofal sefydliadol i ben a sefydlu cartref byw â chymorth cyntaf y DU.
Perfformir gan gast o actor-cerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, gan gynnwys aelodau o Academi Hijinx. Mae Housemates yn noson mas dwymgalon a theimladwy sy’n sicr o gael pawb yn symud eu traed i sgôr o ganeuon poblogaidd y 70au, a chwaraeir yn fyw.
Bydd Housemates yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ôl cyfod o berfformiadau yn Theatr y Sherman.
The Women of Llanrumney gan Azuka Oforka
Cyfarwyddwyd gan Patricia Logue
25 Ebrill – 10 Mai 2025. Ar werth nawr
Mae drama hanesyddol ddirdynnol Azuka Oforka yn wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru yn uniongyrchol. Fe ddychwelir yn 2025 yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn Theatr y Sherman fis Mai eleni, pan roddwyd 5 seren i’r cynhyrchiad. Bydd The Women of Llanrumney yn dychwelyd i Theatr y Sherman yn dilyn cyfnod yn Stratford East.
Cyflwynir gan Theatr y Sherman a Stratford East. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Theatr y Sherman.
Wrth gyhoeddi’r tymor, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy: “Rwy’n gyffrous bod fy nhymor olaf fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman yn plethu gwaith newydd sbon, lleisiau newydd ffres a syniadau newydd ffres gyda sioeau hefyd yn dychwelyd yn sgil galw mawr. Byddwn yn darparu cynulleidfaoedd â sioeau y maent wedi’u mwynhau ac yn rhoi’r cyfle i eraill eu profi gan barhau i ehangu a herio ein gwaith. Mewn sawl ffordd mae’r tymor hwn yn gydgyfeiriant o’r holl waith rydyn ni wedi’i wneud ers i mi gyrraedd ac yn mynegi bwriad clir y cwmni hynod hwn i’r dyfodol. Yn y bôn, y bobl sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig. Gwelwn hyn gyda’r artistiaid eithriadol sydd wrth wraidd y tymor, y mae llawer ohonynt, fel ein cynulleidfaoedd, wedi ymuno â ni ar ein taith. Felly, ni allai’r tymor hwn fod yn fwy gwefreiddiol nac yn fwy perffaith i mi.”
Dywedodd Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry “Wrth i ni edrych ymlaen at 2025, rwyf wrth fy modd bod y Sherman yn cyflwyno gwaith o ehangder mawr, gwaith o’r newydd a gwaith sy’n dychwelyd hefyd, ar gyfer ein cynulleidfaoedd. Mae gweld Housemates a The Women of Llanrhymney yn dychwelyd yn dangos yr effaith a’r awydd am ddramâu newydd sy’n adrodd straeon lleol ac sy’n wir uniaethu â’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau, ac edrychwn ymlaen at rannu’r ddwy sioe â chynulleidfaoedd ehangach yn 2025. Ar y cyd, rydym yn gweithio gyda rhai o’r awduron a’r artistiaid gorau yng Nghymru ar hyn o bryd i ddod â gwaith newydd i’n llwyfannau a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phartneriaid wirioneddol wych. Bydd Hot Chicks a Port Talbot’s Gotta Banksy yn adrodd straeon am gymunedau ar draws de Cymru gan ddod â materion cyfoes i’r amlwg.
Yn benodol, yn 2025, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu arddangos holl dalent aelodau ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, sydd wedi bod yn gweithio ar y cyd â Jen Lunn i ysgrifennu Pilot – a ysgrifennwyd yn arbennig er mwyn cael ei pherfformio gan aelodau o’n Theatr Ieuenctid. Mae cynnig profiadau creadigol i’n cymunedau yn ganolog i’n gwaith yn Theatr y Sherman ac mae cyfuno sawl menter wahanol i greu cynhyrchiad ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn hynod gyffrous.”