PREMIÈRE RHYNGWLADOL O DDRAMÂU CYMRAEG NEWYDD
Romeo and Julie
Roedd y première rhyngwladol o stori garu Caerdydd Gary Owen yn y Sherman yn llwyddiant ysgubol. Yn dilyn perfformiadau yn Llundain, fe brofodd 7,575 o bobl ein cyd-gynhyrchiad clodwiw â’r National Theatre, a phob tocyn wedi’u gwerthu yn ein Prif Theatr, sy’n dyst i gynulleidfa enfawr yn dod i brofi darn o ysgrifennu newydd.
Imrie
Ym mis Mai fe lwyfannom Imrie, ein hail première rhyngwladol fel rhan o’n dathliad pen-blwydd yn 50 oed. Mae Imrie yn ddrama wefreiddiol Gymraeg newydd gan Nia Morais, un o leisiau mwyaf cyffrous theatr Cymru ac ein Hawdur Preswyl eleni. Ar ôl gweithio gyda Nia am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod clo, roeddem yn falch iawn o gyd-gynhyrchu ei drama gyflawn gyntaf gyda’n cyfeillion yn Frân Wen. Derbyniodd y perfformiadau o Imrie ganmoliaeth yn y Sherman cyn mynd ar daith o amgylch Cymru. Mae Elan Davies wedi’i henwebu ar gyfer The Stage Debut Awards yng nghategori’r Perfformiwr Gorau Mewn Drama am ei pherfformiad fel Laura, a dyma’r enwebiad cyntaf yn yr iaith Gymraeg yn hanes y gwobrau.
Cynulleidfaoedd ar gyfer ysgrifennu newydd
Rhwng Medi 2022 a Medi 2023 rydym yn hynod o falch o fod wedi croesawu dros 31,000 o bobl i’r Sherman i weld ein cynyrchiadau oedd yn dangos gwaith ysgrifennu newydd gan ysgrifenwyr Cymreig ac sy’n byw yng Nghymru.
Datblygu ysgrifenwyr Cymraeg ac sy’n byw yng Nghymru
Mae ein Hadran Lenyddol wedi bod yn brysur yn helpu i ddatblygu a meithrin ysgrifenwyr Cymraeg ac sy’n byw yng Nghymru. Agorodd yr adran yn 2021 diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a dyma’r ail gam yn weithgareddau’r cynllun a fydd yn cynnwys tair rhaglen wedi’u cynllunio i gefnogi ysgrifenwyr ym mhob cam o’u gyrfaoedd: Ymchwilio (i ddramodwyr newydd), Ymestyn (i ddatblygu sgiliau dramodwyr), ac Ymdaith (caniatáu dramodwyr profiadol i gael y gofod i dyfu). Mae’r adran wedi rhyngweithio â dros 250 o ysgrifenwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o ddarllen sgriptiau digymell, hyd at gomisiynu dramâu i’n llwyfannau. Fe wnaeth y tîm hefyd lansio Shout / Bloedd, sef cyfres o ddigwyddiadau i arddangos ysgrifennu newydd ac ymhelaethu ar waith cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Dathlu cyfraniad cymunedau Caerdydd i’r ddinas
Ym mis Awst eleni, daeth cymunedau o bob rhan o Gaerdydd at ei gilydd i feddiannu llwyfan y Brif Theatr i adrodd eu straeon fel rhan hollbwysig o’n blwyddyn hanner canmlwyddiant – Love, Cardiff: 50 Years of Your Stories. Roedd y Brif Theatr yn orlawn â thosturi, cariad a phositifrwydd wrth i aelodau o’r Welsh Ballroom community, Darpariaeth Dydd Cathays, y gymuned Fyddar a Chymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan adrodd eu straeon mewn cynhyrchiad arbennig. Ochr yn ochr â’r straeon hyn, trwy ddarn o waith newydd gan Paul Jenkins mewn ymgynghoriad â Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, adroddwyd am hanes y brodyr Sherman a’u rhodd hael i greu Theatr y Sherman. Roedd y cynhyrchiad cymunedol hwn yn benllanw prosiect a wnaed yn bosibl gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. I ategu at y perfformiadau, cynhaliwyd diwrnod bywiog o Ddathlu Cymunedol yn llawn o weithdai, arddangosiadau a digwyddiadau arbennig gan gynnwys perfformiad gan gymuned Waulah Cymru.
Cefnogi cwmnïau newydd o Gymru i berfformio yng Ngŵyl Fringe Caeredin
Buom yn gweithio gyda The Pleasance am yr ail flwyddyn fel rhan o’u rhaglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin i gefnogi cwmni newydd Cymraeg neu sy’n byw yng Nghymru i gyflwyno eu gwaith yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Fe wnaeth derbynwyr eleni, sef y cwmni theatr gynhwysol StammerMouth, ennill dwy wobr fawreddog am eu sioe oedd yn trafod Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol, CHOO CHOO! – Gwobr o fri’r Fringe First a Gwobr Sefydliad Iechyd Meddwl 2023 y Fringe. Mae llwyddiant eleni yn dilyn derbynnydd llynedd o Bartneriaeth Genedlaethol Caeredin y Sherman a’r Pleasance, sef difficult|stage, yn ennill Gwobr Talent Newydd David Johnson am y ddrama An Audience with Milly-Liu.
Dod â chymunedau at ei gilydd ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid
Mae Theatr y Sherman yn Theatr Noddfa sy’n ofod o groeso a diogelwch. Ym mis Mehefin yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid, bu’n Gŵyl Noddfa flynyddol yn ddathliad llawen o greadigrwydd y gymuned ceiswyr lloches. Drwy gydol y flwyddyn mae ein Sesiynau Noddfa wedi rhoi cyfle i’r gymuned gyfarfod â’i gilydd a mynegi eu creadigrwydd.
Mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol gyda Phaned a Stori
Mae ein cynllun Paned a Stori yn cynnig cyfle i bobl hŷn gwrdd ag eraill, gwylio a sgwrsio am ddarlleniad o ddrama dros baned. Hyd yn hyn eleni rydym wedi cyflwyno dau rifyn o’r gweithgaredd hynod o boblogaidd yma gan gyrraedd 160 o bobl.
Theatr Ieuenctid y Sherman a Sherman Players
Mae ein Theatr Ieuenctid a’n ensemble nad ydynt yn broffesiynol clodwiw wedi gwneud cyfraniad pwysig i’n blwyddyn hanner canmlwyddiant. Ym mis Mawrth fe wnaeth ein Theatr Ieuenctid ailymweld â drama glasurol Gary Owen am Gaerdydd, Ghost Cities, a llwyfannu sioe newydd ym mis Gorffennaf, Stolen Stories. Ym mis Ebrill bu Theatr Ieuenctid y Sherman yn gartref i ensemblau theatr ieuenctid o bob cwr o’r wlad mewn gŵyl a oedd yn ffrwydrad o greadigrwydd pobl ifanc. Ym mis Mehefin llwyfannodd y Sherman Players gomedi stormus Elisabethaidd, The London Merchant.
NEWYDD ‘23
Gwelwyd ein partneriaeth hir-sefydlog gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau gyda’n hwythfed cynhyrchiad olynol ar gyfer eu gŵyl flynyddol, NEWYDD.Trasiedi tanbaid Rebecca Jade Hammond, Mad Margot, oedd comisiwn y Sherman eleni, a gafodd ei pherfformio gan Gwmni Richard Burton y Coleg a’i chyfarwyddo gan Jac Ifan Moore gyda Branwen Davies fel Dramaturg Cymraeg.