Eich theatr chi
Yn y sioeau rydym yn eu creu yma yn Cathays, rydyn ni’n rhannu straeon pwysig gyda phobl Caerdydd. Yn Stiwdio’r Sherman, rydyn ni’n comisiynu ac yn darparu’r olwg gyntaf ar sioeau newydd sbon gan awduron o Gymru. Yn y Brif Theatr, rydyn ni’n llwyfannu clasuron y theatr ar eu newydd wedd, yn ogystal â sioeau byrlymus i’r teulu cyfan adeg y Nadolig.
Mae gwaith a chynyrchiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwaith dwyieithog, yn rhan hollbwysig o raglen Theatr y Sherman.