Dewch i fod yn rhan o ein dathliad cymunedol!

Dros dridiau ym mis Awst, bydd Theatr y Sherman yn parhau i nodi ei phen-blwydd yn 50 oed wrth i gymunedau amrywiol feddiannu’r adeilad, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Ar lwyfan ein Prif Dŷ bydd cynhyrchiad cymunedol newydd, Love, Cardiff: 50 Years Of Your Stories, wedi’i greu ar y cyd â phum cymuned unigryw yng Nghaerdydd. Bydd ein gofodau eraill yn gartref i arddangosfa a rhaglen o weithgareddau a pherfformiadau fydd yn rhoi llwyfan ac yn dathlu tirwedd diwylliannol a chymdeithasol gyfoethog Caerdydd.

Rydym eisiau cynnwys cymaint o gymunedau ag y gallwn o bob rhan o’r ddinas felly os hoffech chi, neu eich grŵp cymunedol gymryd rhan, edrychwch ar yr opsiynau isod a phenderfynwch sut yr hoffech chi gymryd rhan!

RHANNU NEU BERFFORMIO YN EIN CYNTEDD NEU STIWDIO: Boed yn farddoniaeth, gair llafar, canu, cerddoriaeth, dawns, neu rywbeth arall nad ydym wedi meddwl amdano, byddem wrth ein bodd yn arddangos eich creadigrwydd. Bydd slotiau perfformio yn amrywio o 5 munud i 20 munud.

BOD YN RHAN O ARDDANGOSFA: Os nad yw perfformio at eich dant chi, efallai yr hoffech gael eich cynnwys yn ein harddangosfa o gymunedau Caerdydd. Gallai eich cyflwyniad fod mor syml â ffotograff o’ch cymuned, gydag esboniad byr am eich grŵp neu weithgareddau, gwrthrych sy’n helpu i adrodd eich stori, neu ddarn o waith celf rydych chi wedi’i greu gyda’ch gilydd. Byddwn yn gweithio gyda’r amryddawn Nathan Wyburn i droi rhai o’ch delweddau yn arddangosfa newydd, fydd i’w gweld yn ein cyntedd!

HWYLUSO GWEITHDY: Weithiau, y ffordd orau o rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud yw trwy ddangos i eraill! Byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithdai er mwyn dod â chymunedau Caerdydd at ei gilydd, felly pe gallech chi arwain gweithdy ymarferol, neu gofod celf a chrefft, hoffem glywed gennych yn fawr.

RHANNU FFILMIAU BYRION: Gwyddom fod llawer o gymunedau’n gwneud, neu wedi cyd-greu, eu ffilmiau eu hunain am eu cymunedau, neu’r pethau sy’n bwysig iddynt. Rydyn ni eisiau rhannu’r rhain yn ein sinema dros dro a dangos y pethau rhyfeddol y gellir eu cyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd.

Mae Theatr y Sherman eisiau creu cyfleoedd i bobl Caerdydd gysylltu â theatr a chreadigrwydd – beth bynnag fo’u hoedran neu gefndir. Trwy rymuso ein cymunedau i adrodd eu straeon rydym yn rhoi llais i empathi ac undod. Os hoffech chi a/neu aelodau o’ch sefydliad cymunedol gymryd rhan, e-bostiwch community@shermantheatre.co.uk neu cwblhewch ein ffurflen gofrestru, er mwyn datgan eich diddordeb.