“Hwn yw’r pecyn addysgol gorau a mwyaf defnyddiol i mi ei dderbyn mewn 14 mlynedd!” Marc Lewis – Pennaeth Drama yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd
Mae ein adnoddau ar gyfer y cyfnod sylfaen a chynradd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chynyrchiadau Theatr y Sherman o sawl stori boblogaidd; Hud y Crochan Uwd, Yr Hugan Fach Goch ac Yr Hwyaden Fach Hyll. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys y chwe maes o ddysgu, a thrwy rannau allweddol y pedwar diben maent yn cefnogi datblygiad y plentyn a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio bydd y cyfuniad hwn yn helpu datblygiad personol a chymdeithasol y plentyn.
Ar gyfer myfyrwyr mewn addysg Uwchradd ac Addysg Bellach, rydym yn cynnig adnoddau sydd wedi eu cynllunio i gefnogi y rheiny sy’n astudio Drama a’r Celfyddydau Perfformiadol ar lefel TGAU, Lefel A, BTEC ac UAL. Y cynyrchiadau dan sylw yw: The Cherry Orchard gan Gary Owen, Dublin Carol, Mother F*cker With The Hat, Lord Of The Flies, Woof, The Taming Of The Shrew gan Jo Clifford, a Hedda Gabler. Gan gynnwys lluniau safonol o’r cynhyrchiad ac ymarferion academaidd ac ymarferol, mae’r adnoddau hyn yn cynnwys ystod eang o gyfleoedd trawsgwricwlaidd. Mae’r pecynnau hefyd yn adnodd gwych ar gyfer pobol ifanc sydd â diddordeb ymhob agwedd o greu theatr.