Mae Nia’n perfformio’n gyson ar lwyfannau, ac mae ei gwaith theatr yn cynnwys Blue / Glas ar gyfer Chippy Lane Productions yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter; y brif rôl yn Esther ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru; a Lovely Evening ar gyfer yr Young Vic.
Mae ei gwaith teledu diweddar yn cynnwys chwarae rhan Della, y brif ran yn Yr Amgueddfa (S4C/BBC iPlayer); Elin John mewn tair cyfres o Craith / Hidden (BBC); Martha Washington yn Washington (History Channel); Linda yn Bang (S4C); a Silvia Fallard yn The Crown (Netflix). Mae ei chredydau ffilm yn cynnwys ei pherfformiad fel Gaenor yn ffilm Paul Morrison, Solomon a Gaenor, a enwebwyd am Oscar (ac fe gafodd Nia ei henwebu am wobr BAFTA), a’i pherfformiad o Lois, yn y ffilm o’r un enw, a gipiodd wobr BAFTA iddi.
Bydd A Midsummer Night’s Dream yn cael ei chyfarwyddo gan Joe Murphy, gydag addasiadau Cymraeg newydd gan Mari Izzard a Nia Morais.
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae’r Sherman wedi dod â chast Cymreig eithriadol ynghyd ar gyfer A Midsummer Night’s Dream ac yn rhoi wynebau cyfarwydd ochr yn ochr â thalent newydd a chyffrous: Dena Davies (Hermia), Leah Gaffey (Puck), Sion Ifan (Oberon / Theseus), Hannah McPake (Peter Quince), Lauren Morais (Lysanna), Tom Mumford (Demetrius), Sion Pritchard (Bottom / Egeus) and Rebecca Wilson (Helena). Bydd aelodau o grŵp theatr y Sherman nad ydynt yn broffesiynol, Sherman Players, yn ymuno â’r cwmni fel y Mechanicals arall.
Bydd dwy o awduron mwyaf cyffrous Cymru, Mari Izzard (HELA) ac Awdur Preswyl y Sherman, Nia Morais (Crafangau / Claws) yn cynnig safbwyntiau newydd a ffres gydag addasiadau newydd yn yr iaith Gymraeg. Mae Mari a Nia wedi creu deialog newydd ar gyfer y tylwyth teg a chymeriadau sy’n cael eu swyno gan y tylwyth teg.
Mae cynhyrchiad Joe Murphy yn sicr o fod yn chwareus wrth wyrdroi disgwyliadau o’r campwaith hwn gan gynnwys newidiadau i rôlau rhywedd a rhywioldeb. Bydd A Midsummer Night’s Dream yn cael ei pherfformio yn Saesneg gyda’r addasiadau Cymraeg newydd yn cael eu capsiynu ym mhob perfformiad.
Dywedodd Nia Morais “Dwi mor hapus i fod yn rhan o’r prosiect yma oherwydd dwi wastad wedi moen gweithio ar gynhyrchiad Shakespeare. Mae addasu wedi bod yn her cyffrous a dwi methu aros gweld y sioe!”
Dywedodd Mari Izzard “Ar ôl gweithio ar gynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream yn yr RSC nôl yn 2016, roeddwn i’n gwybod bod fersiwn ddwyieithog hyfryd o’r stori hon rydyn ni i gyd yn ei hadnabod a’i charu yn aros i gael ei harchwilio. Rydw i mor gyffrous i ddod â hyn yn fyw gyda Nia a’r tîm!”
A Midsummer Night’s Dream yw’r diweddaraf, a’r gyntaf ers 2019, yng nghyfres hirsefydlog Theatr y Sherman o gynyrchiadau clasurol yr hydref sy’n cyflwyno addasiadau newydd a beiddgar o ddramâu poblogaidd. Mae’r cynhyrchiad hwn yn addo’r hud y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan A Midsummer Night’s Dream gan hefyd gynnig mewnwelediadau newydd a chyfleoedd i feddwl am ein byd ni nawr.
Dywedodd Joe “Ychydig o ddramâu sydd â’r gallu i ddod â chymaint o lawenydd i gynulleidfaoedd ag A Midsummer Night’s Dream; dyna’r ddrama sydd ei hangen arnom ni i gyd ar hyn o bryd. Rwyf wedi fy nghyffroi’n fawr gan y safbwyntiau newydd y mae Mari a Nia wedi’u cyflwyno i’r ddrama ac ni allaf aros i ddechrau gweithio gyda’r cast a’r tîm creadigol cyffrous hwn o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.”
Bydd Dena Davies yn chwarae Hermia, ac yn perfformio’n broffesiynol ar y llwyfan am y tro cyntaf, a Leah Gaffey (Little Red Riding Hood, Theatr y Sherman; Llyfr Glas Nebo, Frân Wen) yn chwarae rhan Puck. Bydd Sion Ifan (Hidden / Craith, S4C / BBC; Byw Celwydd, S4C) yn chwarae Oberon / Theseus a Hannah McPake (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i’r Sherman i chwarae rôl Peter Quince.
Bydd Lauren Morais (Maryland, Theatr y Sherman; Y Gyfrinach, S4C) yn chwarae Lysanna, ac yn perfformio’n broffesiynol ar y llwyfan am y tro cyntaf. Bydd Tom Mumford (Petula, National Theatre Wales/Theatr Genedlaethol Cymru/August 012; Carmen, Opera Cenedlaethol Cymru) yn ymuno â’r cast i chwarae Demetrius a Sion Pritchard (Petula, NTW/Theatr Gen/August 012; Hidden / Craith, S4C / BBC) fydd yn chwarae rhan Bottom / Egeus. Rebecca Wilson (The Curious Incident of the Dog in the Night Time, National Theatre/Frantic Assembly – Taith y DU ac Iwerddon) sy’n chwarae rhan Helena.
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy (A Christmas Carol, A Hero of the People, Theatr y Sherman). Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol sy’n siarad Cymraeg yn ymuno ag ef, a’u henw i’w gyhoeddi maes o law. Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, Branwen Davies yw Dramatwrg Cymraeg y cynhyrchiad.
Hefyd yn ymuno â Joe bydd Elin Steele (A Hero of the People, The Merthyr Stigmatist, Theatr y Sherman) fel Cynllunydd ac Eädyth Crawford (Crafangau / Claws, The Merthyr Stigmatist, Sherman Theatre) fel Cyfansoddwr. Ian Barnard (A Christmas Carol, The Merthyr Stigmatist, Theatr y Sherman) fydd y Cynllunydd Sain a bydd Andy Pike (Dance to the Bone, A Christmas Carol, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i’r Sherman fel Cynllunydd Goleuo a Thafluniad.
Yn y ddinas batriarchaidd, fe ddywedir wrthych pwy mae hawl gennych ei garu. Mae Hermia yn caru Lysanna ond yn cael ei gorfodi i briodi Demetrius. Tra bod Helena, ffrind Hermia, yn addoli Demetrius yn gyfrinachol. Drwy ddianc i’r coed, daw’r pedwar person ifanc hyn o hyd i fyd heb reolau, lle mae unrhyw beth yn bosibl.
Bydd cynhyrchiad y Sherman o A Midsummer Night’s Dream yn taflu goleuni newydd ar stori ddoniol Shakespeare am chwant, ac yn sicr o fod yn brofiad theatrig llawen sy’n codi calon.
Er mwyn sicrhau bod cost y tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae’r Sherman yn cyflwyno cynllun newydd, Rhagddangosiadau Talwch Faint Allwch Chi, a fydd yn caniatáu i gynulleidfaoedd ddewis faint i’w dalu am docynnau.