Mae Elan Davies a Rebecca Wilson wedi’u cyhoeddi fel cast ar gyfer y cynhyrchiad Imrie gan Nia Morais, un o leisiau mwyaf cyffrous theatr yng Nghymru. Mae Imrie yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Frân Wen. Gethin Evans (Galwad Collective Cymru dan arweiniad National Theatre Wales; Woof Theatr y Sherman), Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, sy’n cyfarwyddo’r stori hudolus hon i oedolion ifanc am obaith a dewrder.
Bydd Elan Davies (Galwad Collective Cymru dan arweiniad National Theatre Wales; This Place Burnt Orange Theatre Co.) yn chwarae rhan Laura. Bydd Rebecca Wilson, sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd Theatr y Sherman am ei pherfformiadau fel Helena yn A Midsummer Night’s Dream ac mewn sawl rôl yn Elen Benfelen / Goldilocks, yn chwarae rhan chwaer Laura, Josie. Mae Rebecca hefyd wedi bod yn rhan o daith y DU ac Iwerddon o The Curious Incident of the Dog in the Night-Time (National Theatre / Frantic Assembly).
Yn cwblhau’r tîm creadigol mae’r Cyfansoddwr Eädyth Crawford (A Midsummer Night’s Dream, The Merthyr Stigmatist Theatr y Sherman & Theatre Uncut), y Cynllunydd Cai Dyfan (Joseph K and the Cost of Living ac On Bear Ridge National Theatre Wales; Croendena Frân Wen), Cynllunydd Goleuo Ceri James (Tylwyth Sherman Theatre & Theatr Genedlaethol Cymru; Ynys Alys Frân Wen) a’r Cynllunydd Sain Sam Jones (Iphigenia yn Splott Theatr y Sherman; Tylwyth Theatr y Sherman & Theatr Genedlaethol Cymru). Mae Enfys Clara yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol sy’n rôl gyflogedig.
Meddai’r Cyfarwyddwr Gethin Evans: “Datblygwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer Imrie yn ystod rhaglen datblygu artistiaid gan Frân Wen gyda chefnogaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae Nia yn dod â llais ffresh, newydd a chŵl i brofiadau pobl ifanc heddiw.
“Allwn ni ddim disgwyl i rannu’r stori ryfeddol yma sy’n dod a thôn hollol newydd i theatr Gymraeg.”
Mae Josie yn darganfod parti hudolus o dan y dŵr sy’n well nag unrhyw barti dynol erioed. Mae’n fyd lle mae’n darganfod ei gwir hunan – ac Imrie Sallow. Uwchben y dŵr, mae hi ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, â chwaer sydd eisiau iddi fod yn ‘hapus a normal’. Ond yng nghysgodion y byd arallfydol daw cyfrinach teuluol i’r wyneb sy’n newid popeth.
Imrie yw drama lawn gyntaf Nia Morais sy’n dilyn ei drama fer gyntaf Crafangau/Claws a ryddhawyd yn ystod cyfnod clo 2020 fel rhan o gyfres sain Calon Caerdydd Theatr y Sherman a llwyfannwyd yn ddiweddarach mewn perfformiadau awyr agored. Nia oedd yn gyfrifol am addasu A Midsummer Night’s Dream yn y Gymraeg ym mis Hydref 2022 ochr yn ochr â Mari Izzard.
Bydd cynulleidfaoedd ledled Cymru yn cael y cyfle i brofi’r stori hudol hon. Yn dilyn perfformiadau cychwynnol yn Theatr y Sherman (11-20 Mai), bydd Imrie yn teithio ar draws y wlad, gan ymweld â Phontardawe, Aberystwyth, Caernarfon, Yr Wyddgrug, Bangor, Aberdaugleddau, Casnewydd a Garth Olwg, Pontypridd.
Gyda chapsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, gall dysgwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg newydd a’r di-Gymraeg ddilyn y sioe drwyddi draw. Gweler y wefan am berfformiadau sain ddisgrifio ac Iaith Arwyddion Prydeinig.