Aelodaeth

Ymaelodwch â chynllun Aelodaeth a helpwch ni i barhau i greu cynyrchiadau bythgofiadwy, datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid, a rhoi’r cyfle i bawb greu a gweld theatr arbennig.

Mwynhewch gynnwys unigryw i aelodau a derbyniwch newyddion rheolaidd gan Theatr y Sherman.

Mae lefelau aelodaeth ar gael fel a ganlyn:

1. Aelodaeth Efydd y Sherman – Dim ond £6 y mis (£72 y flwyddyn)

2. Aelodaeth Arian y Sherman – £20 y mis (£240 y flwyddyn)

3. Aelodaeth Aur y Sherman* (Cynllun Cymwynaswyr gynt) – £600 y flwyddyn

Aelodaeth Rhodd

Mae pob cynllun aelodaeth flynyddol hefyd ar gael i’w prynu fel Aelodaeth Rhodd. Dewiswch yr opsiwn ‘Anfon fel Rhodd’ wrth brynu’r aelodaeth.

I gael gwybod am y manteision o ymuno â chynllun Aelodaeth Sherman, lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth.

Telerau ac Amodau ar gyfer Aelodaeth y Sherman:

• Mae pob aelodaeth yn cynnwys o leiaf 12 mis o derm 

• Fel Elusen Gofrestredig, sylwch nad oes modd ad-dalu unrhyw aelodaeth na rhoddion i’r Sherman.

* Mae Aelodaeth Aur y Sherman yn cynnwys gwerth buddion sy’n cyfateb â chost yr aelodaeth i’r elusen. Gellir prynu’r buddion hyn ar wahân am y pris hwn. Mae unrhyw swm a roddir yn ychwanegol at werth y buddion yma yn cael eu rhoi fel rhodd ac yn gymwys am Rodd Cymorth. Aelodaeth Aur y Sherman – Rhodd £374 / Buddiannau £226. I drafod prynu buddion ar wahân, cysylltwch ag Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu, ar 02920 646976.