Mae’r llinell amser yma’n adrodd stori’r Sherman hyd yma, drwy uchafbwyntiau neu ddigwyddiadau allweddol rydyn ni’n credu sydd wir yn cyfleu’r hyn sy’n gwneud y Sherman mor arbennig. Nid yw’r llinell yn gynhwysfawr, ac mae’n bosib y bydd rhai uchafbwyntiau wedi’u methu drwy ddamwain, wrth i dimau newid dros y blynyddoedd. Os oes bylchau, nid ydyn nhw’n fwriadol. Os ydych chi wedi gweithio yn y Sherman, neu’n teimlo bod rhywbeth ar goll o’r rhestr y dylen ni ei gynnwys, anfonwch e-bost i marketing@shermantheatre.co.uk a byddwn ni’n falch iawn i’w ychwanegu. Rydyn ni wedi bod yn ofalus iawn i sicrhau bod y wybodaeth ar y llinell amser yn gywir, ond wrth gwrs os oes unrhyw wallau, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eu cywiro. Fel arall, rhannwch eich atgofion a’ch straeon am y Sherman gyda ni ac eraill drwy ein hymgyrch ‘Beth yw eich stori Sherman chi?’.
Hoffem ymestyn diolch mawr i bawb a gyfrannod at ein llinell amser.
Mae C.W.L (Bill) Bevan, Pennaeth Coleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd erbyn hyn) yn cynnull gweithgor i ddatblygu cynnig Geoffrey Axworthy i ddefnyddio rhodd sylweddol gan Sefydliad Harry ac Abe Sherman i’r Coleg i greu canolfan gelfyddydau nodedig fawr yn y ddinas.
Roedd Geoffrey Axworthy yn gweld bod angen theatr fodern ar Gaerdydd ar y pryd, ac roedd ei weledigaeth ar gyfer yr adeilad yn cynnwys awditoriwm fawr gyda bwa proseniwm (y Prif Lwyfan, a gaiff bellach ei adnabod fel y Prif Theatr) a gofod hyblyg llai (yr Arena, neu’r Stiwdio erbyn hyn).
Gafodd Theatr y Sherman ei dilyno gan benseiri Alex Gordon a phartneriaid a’i weithredu gan Goleg Prifysgol Caerdydd. Gymerodd ddwy flynedd i’w gynllunio a gymerodd dair blynedd i adeiladu fel rhan o gampws y Brifysgol. Gafodd carreg sylfaen y Sherman ei osod ar y 5 o Dachwedd 1968 gan George Thomas, ysgrifennydd gwladol Cymru, ac wedyn yn ddiweddarach is-iarll Tonypandy.
Byddai Theatr y Sherman yn cyflwyno cyflwyno theatr broffesiynol, theatr yn y Gymraeg, cyngherddau, darlithoedd a ffilmiau ar gyfer y gymuned leol, gweithwyr celfyddydol, y brifysgol a’i myfyrwyr. Mae’r gweithgor yn codi arian pellach i wireddu’r prosiect gan Bwyllgor Grantiau’r Brifysgol, Cronfa Tai’r Celfyddydau Cyngor y Celfyddydau a’r Sefyliad Ffilm Brydeinig.
Mae Theatr y Sherman yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf ar 3 Hydref gyda dangosiad o The Savage Messiah gan Ken Russel yn y Brif Theatr. Geoffrey Axworthy yw’r cyfarwyddwr, Branwen Iorwerth yw rheolwr cyntaf y Theatr a Peter Woodham yw’r cyfarwyddwr Technegol. Ar 23ain o Dachwedd, mae’r Tywysog Phillip yn agor Theatr y Sherman yn swyddogol. Mae Ymddiriedolwyr Sefyliad y Sherman, Mrs Anne a Lily Sherman yn bresennol. Ddiwedd mis Tachwedd, ‘The Goverment Inspector’ gan Gogol a berfformir gan Gwmni Theatr Cymru yw’r cynhyrchiad cyntaf i’w lwyfannu yn y Prif Dy.
Digwyddiadau eraill o’r ddau fis cyntaf yn cynnwys yr unig berfformiad ym Mhrydain gan Georges Brassens, Pericles gan Prospect Theatre Company, y digwyddiad cyntaf yn y Gymraeg gan Theatr yr Ymylon – Teyrnged – coffadwriaeth ar gyfer Saunders Lewis ar ei phen-blwydd yn 80 a The Welsh Dylan – arddangosfa amlgyfrwng i ddathlu 20 mlynedd ers marwolaeth y bardd yn yr Arena.
Mae’r flwyddyn lawn gyntaf o berfformiadau yn cynnwys y cynhyrchiad Cymraeg cyntaf yn y Sherman – Twm Siôn Cati, wedi’i berfformio gan Theatr yr Ymylon.
Enillodd Eugene Ionesco grant gan y cyngor celfyddydol Cymru ar gyfer gwobr ryngwladol a mynychodd symposiwm o’i waith yn y Prif Dy. Oedd yna sawl perfformiad arall i’w ddilyn gan gynnwys cynyrchiadau gan y Theatr Genedlaethol a Trevor Griffiths hefo The Party, Moving Being gan Dreamplay, Caricature Theatre hefo Phantom Tollbooth, Cwmni Drama Cymru gyda Hywel Bennet yn y Seagull gan Chekov ag hefyd Cwmni Dawns Cymru.
Yn yr Arena, mae cwmnïau Hull Truck a Joint Stock yn perfformio wrth hefo grŵp theatr amatur lleol ac mae adran cerddoriaeth y Coleg Prifysgol Caerdydd yn cynnal gweithdy opera. Ar nos Lun oedd y gymdeithas ffilm yn cwrdd, gyda dangosiadau ffilmiau nos Wener yn profi’n boblogaidd iawn.
Mae’r cwrs ol-raddedig unigryw yn cael ei lansio a’i addysgu gan staff theatr broffesiynol. Gyda graddedigion yn cynnwys Mike James, Russell T. Davies, Mike Pearson a Hugh Canning. Adrian Mitchell yw’r ysgrifennwr preswyl, mae Cwmni Arena’r Sherman yn dangos gwaith y myfyrwyr cwrs ol-raddedig gyda’r gwaith yn mynd ar daith ar draws Prydain a thramor.
Mae arddangosfeydd celfyddydau gweledol bywiog wedi bod yn plesio cynulleidfaoedd cyn sioeau ac yn ystod egwyliau ers i’r theatr agor. Mae rhaglen eleni yn yr Oriel Arddangos yn cynnwys Ffotograffau o Gymru gan John Piper. Hefyd cyflwynwyr Jack Thackray, Wythnos Wyddoniaeth a phencampwriaethau rhyngwladol Yo-yo.
Mae’r cwmnïau theatr Paines Plough, Pip Simmons a Shared Experience yn ymweld â’r Sherman am y tro cyntaf, gyda pherfformiadau yn y Stiwdio. Mynychodd Fredrick Durrenmatt, enillwyr wobr ysgrifenwyr rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru i ŵyl a gynhelir yn ei enw ef. Mae murlun mawr yn cael ei gomisiynu ar gyfer wal grisiau’r cyntedd gan Mark Dalton a gafodd ei ariannu gan y BFI a gafodd ei agor gan Phillip Jenkinson.
Fel rhan o’i rôl fel Theatr Ffilm Ranbarthol, yn rhan o rwydwaith Sefydliad Ffilm Prydain, mae Cymdeithas Ffilm y Sherman yn dangos ffilmiau bob nos Lun. Mae’r Theatr yn ennill gwobr Cymdeithas Ffilm y Flwyddyn gan Ffederasiwn Cymdeithasau Ffilm Prydain. Mae’r ffilmiau clasurol a ddangoswyd eleni yn cynnwys Celine and Julie Go Boating, Barry Lyndon, The Enigma of Kaspar Hauser a Westworld. Mae Theatr y Sherman yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol ASSITEJ ar gyfer pobl ifanc, sy’n cael ei llwyfannu ledled Cymru.
Mae’r bardd llawryf Ted Hughes yn rhoi darlleniad, ac mae Poetry for May Day yn yr arena yn ddarlleniad marathon di-stop, sydd yn para deuddeg awr ac yn cynnwys Roger McGough, Laurie Lee, Cyril Fletcher, Adrian Mitchell, Bob Cobbing a llawer o rai eraill.
Mae dros 300,000 o docynnau wedi’u gwerthu ers i’r theatr agor bum mlynedd yn ôl. Yn ystod y pum mlynedd gyntaf, mae 1,545 o berfformiadau cymunedol a phroffesiynol byw wedi’u cynnal. Mae’r Theatr y Sherman yn cynnig digwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys Yehudi Menuhin yn perfformio ag lansio Live Music Now yng Nghymru, cynhyrchiad o Ŵyl Abergwaun o What the Old Man Does is Always Right gan Alan Hoddinott , ac arddangosfa arbennig gan Marevna, partner i’r artist Diego Rivera ag Mam i’r actores a’r gantores, Marika Rivera.
Ym mis Awst mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Gaerdydd, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ym Mhrif Theatr a Stiwdio’r Sherman.
Mae Geoffery Axworthy a Hector Del Peutro yn cynhyrchu addasiad o The Merchant of Venice gan Shakespeare. Mae’r Sherman yn gwasanaethu fel sylfaen ar gyfer gŵyl adloniant rhyngwladol i bobl ifanc, sy’n cynnal dros 35 cwmnïau o dros 17 gwlad wahanol, gyda chynyrchiadau yn cael ei pherfformio ar draws Cymru, sy’n diweddu hefo cynhadledd yn y Sherman.
Dros ddeunaw mis ers iddi gael ei rhyddhau yn wreiddiol ym Mhrydain, mae cynulleidfaoedd yn awyddus i ail-wylio ffilm wreiddiol Star Wars i baratoi am y ffilm ddilynol sydd ar fin cael ei rhyddhau, gyda’r Sherman yn cynnal dangosiadau o’r ffilm. Am y tro cyntaf, mae modd prynu tocynnau gyda chardiau credyd wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Yn dilyn darllediad radio hynod o lwyddiannus o Hitchhiker’s Guide to the Galaxy, mae Theatr Clwyd yn dod â’u haddasiad llwyfan i’r Sherman. Gyda’r ddrama’n rhedeg am pum awr gyfan, mae modd gwylio’r ddrama mewn un dangosiad neu dros dair noson yn olynol. Mae bwyd gofod a Moon-ade ar gael yn y bar i lenwi boliau a thorri syched y mynychwyr.
Mae Sherman Regulars, y cynllun aelodaeth gyntaf, yn cael ei lansio, sy’n rhoi gostyngiad o 50c i aelodau ar bob tocyn.
Mae’r Sherman yn lansio eu tymor tanysgrifio cyntaf theatre fyw, gyda chwe ddrama gan Theatr Clwyd, Cwmni Theatr Cymru, gan gynnwys cynhyrchiadau o Macbeth a Translations gan Brian Friel, gyda Philip Madoc yn serenu. Am y tro cyntaf, mae’r band enwog Ar Log yn ymweld â’r Sherman ar eu taith gyda’r canwr a’r ymgyrchydd chwedlonol Dafydd Iwan, fel rhan o ‘Taith 700’ i gofio’r rhyfelwr o Gymro, Llywelyn ein Llyw Olaf.
Mae Theatr y Sherman yn dathlu ei deng mlwyddiant. Mae’r Sherman wedi mynd o nerth i nerth, gan sefydlu ei hunan fel canolbwynt diwylliannol y de-ddwyrain. Mae cynulleidfaoedd yn heidio yno i weld ffilmiau, mynychu gweithdai, darlithoedd, a gwylio cynyrchiadau teithiol o safon fyd-eang. Mae’r tymor tanysgrifio llwyddiannus iawn wedi’i ymestyn i wyth cynhyrchiad mawr gan gynnwys cynhyrchiad o Ghosts gan Ibsen.
Mae’r adran gwyddoniaeth Coleg Prifysgol Caerdydd yn unwaith eto cymryd dros yr adeilad gyda’r Wythnos Wyddoniaeth, sy’n dangos sut all addysgu gwyddoniaeth ddychmygol greu theatr anhygoel. Aeth Professor John Beetlestone, y person sy’n gyfrifol am yr Wythnos Wyddoniaeth mynd ymlaen i greu cyfleuster addysgol hynod o bwysig drwy sail Techniquest ym Mae Caerdydd, gyda’r wythnos wyddoniaeth yn rhagflaenydd i hynny. Mae’r degawd nesaf i ddilyn am fod yn hanfodol i sefydlu dyfodol y Sherman.
Mae Cwmni Arena’r Sherman yn teithio Love’s Labour’s Lost i Lerpwl a Pharis. Sherman yn gosod ei gynhyrchiad Nadolig ei hun – Oz! gyda sgript a cherddoriaeth gan Mike James
Mae cyngor Caerdydd a De Morgannwg yn gwneud cyfraniad sylweddol i ariannu Theatr y Sherman gyda grant o £13,000. Mae’r grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhaglen adnewyddu. Bydd gan y Theatr far cyhoeddus newydd, ac am y tro cyntaf erioed, ardal eistedd i gynulleidfaoedd gael ymlacio ynddi yn ystod yr egwyl. Cefn llwyfan, mae swyddi’n cael eu llenwi mewn adran gynhyrchu newydd sbon, i baratoi am newyddion cyffrous ym 1985.
Ym mis Chwefror, mae Theatr y Sherman yn cael grant o £125,000 i ddatblygu theatr Saesneg prif ffrwd ar gyfer y de-ddwyrain. Ym mis Hydref, mae Cwmni Theatr y Sherman yn cael ei ffurfio o dan gyd-gyfarwyddiaeth artistig Gareth Armstrong, Geoffrey Axworthy a Mike James. Mae ei sioe gyntaf, The Winter’s Tale gan Shakespeare, yn cael ei chyfarwyddo gan Gareth Armstrong gydag Angharad Rees a Di Botcher yn serennu. Cynhyrchiad y Nadolig y flwyddyn hon oedd Harry’s Comet gan Mike James.
Mae Theatr y Sherman yn cynhyrchu addasiad Willy Russel o Blood Brothers, Side by Side by Sondheim a gafodd ei chyfarwyddo gan Geoffrey Axworthy, a Tom Stoppard’s Real Thing. Mae’r Theatr hefyd yn cynhyrchu ei gynhyrchiad teithiol cyntaf – A Day in the Death of Joe Egg gan Peter Nichols. Mae’r sioe yn teithio i ddeuddeg lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Bangor, Llanfair-ym-muallt, Harlech, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe, ymhlith eraill. Fantastic Mr. Toad yw’r sioe Nadolig eleni, gyda’r gwaith celf ar y poster wedi’i ddylunio gan Russell T. Davies.
O ganlyniad i doriadau ariannu sylweddol, mae Coleg Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi ei fod yn tynnu ei gyllid yn ôl o’r theatr, ac mae’r theatr dan fygythiad o orfod cau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae staff y Sherman, David Stacey, cadeirydd Cwmni Theatr y Sherman ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, yn gweithio i ddiogelu dyfodol y Sherman. Mae pobl y de-ddwyrain yn dod at ei gilydd drwy sail ymgyrch Save the Sherman, gan ysgrifennu miloedd o lythyron, arwyddo deisebau a chefnogi gwrthdystiadau.
“Rwy’n gwybod mor odidog o safle yw’r Sherman i artistiaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, byddai ei cholled yn wastraff trallodus o’r cyfraniad hanfodol y mae theatr yn ei wneud i’r gymuned.” Derek Jacobi
Mae Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yn cytuno i brynu Theatr y Sherman gan Goleg Prifysgol Caerdydd er mwyn y genedl, ac mae cwmni elusennol annibynnol newydd yn cael ei ffurfio, Theatr y Sherman Cyfyngedig. Mae Mike James yn cael ei benodi’n ddarpar Gyfarwyddwr Artistig. Er bod Ysgolion Haf y Sherman wedi cael eu cynnal yn flaenorol, eleni mae Prosiect Theatr Ieuenctid y Sherman yn cael ei lansio.
Gyda’r angen am gyllid yn parhau er mwyn sicrhau bod drysau’r Sherman yn gallu aros ar agor, mae digwyddiad codi arian Cwrdd â’r Sêr yn cael ei drefnu, gydag enwogion fel Fenella Fielding, Glyn Houston, a Roy Hudd yn cynnig eu cefnogaeth. Mae cynulleidfaoedd yn parhau i heidio i berfformiadau, gan gynnwys Entertaining Mr Sloane gan Joe Orton a Confusions gan Alan Ayckbourne.
Mae cyfnod hynod o bwysig Geoffery Axworthy fel Cyfarwyddwr, a wedyn Cyfarwyddwr Artistig o Cwmni Theatr y Sherman yn dod i ben wrth iddo ymddeol. Mae Mike James yn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig. Mae Syr Ian McKellen yn ymweld â Theatr y Sherman fel rhan o’i daith gydag Acting Shakespeare.
Mae Mike James yn gadael ei swydd. Mae’r Bwrdd yn penodi dau ymgynghorydd i baratoi adroddiad ar ddyfodol hirdymor y theatr. Mae’r cwmni newydd Dalier Sylw yn llwyfannu eu cynhyrchiad cyntaf, Adar Heb Adenydd gan Edward Thomas. Sefydlwyd y cwmni gan Peter Edwards, Sion Eirian, Bethan Jones ac Eryl Phillips. Mae Syr Kingsley Amis yn dod i noson agoriadol fersiwn lwyfan o The Old Devils, sef ei nofel a enillodd Wobr Booker. Mae Phillip Madoc a Meg Wynn Owen yn serennu yn y perfformiad.
Mae Phil Clark yn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig. Mae ei weledigaeth artistig yn rhoi pobl ifanc wrth wraidd y theatr. Mae’n cyhoeddi ei uchelgais i drawsnewid Theatr y Sherman yn Theatr i Bobl Ifanc.
“Ro’n i’n glir iawn pan gymerais i’r awenau y dylai gael ei phoblogi gan bobl ifanc. Mae’r ffaith bod bron i 250-300 o bobl ifanc yn defnyddio’r adeilad yma bob wythnos i wneud eu theatr ieuenctid eu hunain yn gwbl hanfodol i ethos yr adeilad yma – bod y cynnyrch rydyn ni’n ei greu yn edrych ar anghenion cynulleidfa ifanc.”
Mae’r Tywysog Edward yn ymweld â’r Sherman ar ran cynllun Dug Caeredin. Mae’r theatr wedi bod yn cynnal cwrs preswyl pum diwrnod i bobl ifanc allu gweithio tuag at Wobr Aur Dug Caeredin, a dyma’r unig theatr ym Mhrydain sy’n gweithredu fel Canolfan Wobr Agored. Cafodd y Sherman ei chanmol gan y Tywysog Edward am ei pholisi ieuenctid ffyniannus ar ymweliad blaenorol.
Mae’r actor chwedlonol Sian Phillips yn dod yn noddwr cyntaf y Sherman. Drwy gydol misoedd yr haf, mae prosiect adnewyddu graddfa fawr yn digwydd. Mae bar, logo, siop ac ardal berfformio newydd, yn ogystal â chyfleusterau gwell i gwsmeriaid anabl, yn cael eu cyflwyno.
Mae addasiad o Matilda gan Roald Dahl, wedi’i gyfarwyddo gan Phil Clark, yn cael ei lwyfannu, gan nodi dechrau ymrwymiad y Sherman i gynhyrchu gwaith newydd i bobl ifanc. The Pathway Home yw’r sioe Nadolig gyntaf i blant dan 7 oed i fynd ar daith.
Mae Theatr y Sherman yn llwyfannu cynhyrchiad o Under Milk Wood. Mae dros 40,000 o bobl yn gweld y sioe ar daith ledled Prydain, ac mae’n mynd ar daith i’r UDA y flwyddyn ganlynol.
Mae’r Sherman yn perfformio cynhyrchiad Nadolig hynod lwyddiannus arall i bobl ifanc – The Dark is Rising gan Susan Cooper, wedi’i gyfarwyddo gan Phil Clark a’i gyd-gyfarwyddo gan Arweinydd y Theatr Ieuenctid, Alison Gerrish. Cafodd The Dark is Rising ei dewis yn rhestr The Times ‘10 Sioe Nadolig Orau Prydain’. Mae’r unig Theatr Pobl Ifanc yng Nghymru yn cyhoeddi Gŵyl Theatr Blant Ryngwladol gyntaf Cymru, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Mae’n dod â rhai o gwmnïau pwysicaf Cymru at ei gilydd, yn cynnwys: Frân Wen, Hijinx, Arad Goch a Theatr Iolo.
Mae Theatr y Sherman yn ennill Gwobr Galluogi BBC Arts. Mae Bob Kingdom yn perfformio cynhyrchiad teithiol – Dylan Thomas: Return Journey wedi’i gyfarwyddo gan Syr Anthony Hopkins.
Mae cyfranogwyr cynhyrchiad Ysgol Haf y Sherman yn perfformio ar y prif lwyfan ochr yn ochr â chast proffesiynol am y tro cyntaf yn Midsummer Night’s Dream. Mae cynhyrchiad hynod lwyddiannus gan y Sherman o Ghosts gan Ibsen, gyda Sian Phillips yn serennu, yn cael ei gyflwyno.
Mae’r Sherman a HTV yn cyd-lansio menter ddrama amser cinio llwyddiannus. Am y tro cyntaf, bydd dau gwmni’n dod at ei gilydd i gyflwyno pedwar llun gwrthgyferbyniol o fywyd yng Nghymru ar ffurf dramâu byrion wedi’u hysgrifennu gan awduron lleol. Byddai’r dramâu’n cael eu perfformio yn y Sherman yn gyntaf, cyn trosglwyddo i stiwdios HTV yng Nghroes Cwrlwys i’w darlledu.
Mae darn cydweithredol o’r enw A Generation Arises yn dod ag wyth awdur, 40 o bobl ifanc a phedwar actor proffesiynol at ei gilydd, ac yn edrych o ddifri ar hanes a diwylliant Cymru drwy brofiadau’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Mae lluniau hardd o gefn gwlad Cymru a gwaith Dylan Thomas yn golygu llai iddyn nhw na beichiogrwydd yn ystod yr arddegau a chiwiau yn aros am y dôl.
Mae’r cynhyrchiad yn rhedeg am bythefnos ac yn cael ei ffilmio gan raglen gelfyddydol BBC Wales, The Slate. Mae Lucy Rivers, 15 oed, yn un o’r bobl sy’n rhan o’r prosiect, a fydd yna’n mynd ymlaen i fod yn gyfansoddwraig a actor llwyddiannus, gan weithio ar ddwsinau o gynyrchiadau Theatr y Sherman, ac yn parhau hyd heddiw.
Mae’r Rheolwr Cyffredinol Margaret James, sydd newydd ymuno â’r Sherman, yn cael ei chydnabod. Mae’n ennill Anrhydedd y Celfyddydau 1995 am ei chyfraniad i Theatr y Barbican Plymouth, a byddai’n mynd ymlaen i weithio yn Theatr y Sherman am 20 mlynedd. Mae Herman, masgot arth y Sherman, yn cael ei gyflwyno. Mae’r Sherman yn cynhyrchu addasiad o Boy gan Roald Dahl. Mae cynulleidfaoedd yn cael y dewis o weld addasiad wedi’i berfformio gan Theatr Ieuenctid y Sherman neu gast proffesiynol.
Mae’r Sherman yn cael ei chanmol yn y South Wales Echo am lansio cynllun ‘Talwch faint gallwch chi’. Dyma’r tro cyntaf i theatr yng Nghymru wneud hynny, ac mae’n arfer sy’n parhau hyd heddiw.
Mae gwaith o ansawdd uchel i blant y theatr yn parhau, gyda chynhyrchiad Nadolig o’r BFG gan Roald Dahl yn gwerthu pob tocyn, wedi’i gyfarwyddo gan Michael Bogdanov. Gan barhau â’i theatr i gynulleidfaoedd ifanc, mae plant dan 7 oed yn cael eu gwasanaethu’n dda eleni, gyda pherfformiadau sioeau plant yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn drwy’r flwyddyn gan ystod eang o gwmnïau teithiol.
Mae Theatr y Sherman dan fygythiad o gau oherwydd heriau ariannu newydd, ac mae apêl gyhoeddus newydd yn cael ei lansio. Mae’r Sherman yn dechrau’r ail argyfwng ariannu. Mae llawer iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd a gan artistiaid, yn cynnwys y Manic Street Preachers, Sian Phillips, Peter Gill, Jo Brand a Victor Spinetti.
Mae aelodau o’r Theatr Ieuenctid yn mynd i Awstralia ar gyfer gŵyl gelfyddydol fawr i nodi hanner can mlwyddiant y British Council yn Awstralia.
Mae Theatr y Sherman yn dathlu 25 mlynedd gyda dwy sioe gomedi hynod boblogaidd, Family Planning a Pullin’ the Wool, gan y diweddar Frank Vickery, dramodydd gwych o Gymru a oedd hefyd yn serennu yn y ddwy sioe. Mae teuluoedd wrth eu boddau adeg y Nadolig gyda fersiwn fodern newydd sbon o Secret Seven gan Enid Blyton, wedi’i gosod yn 1999 yn The Secret Seven Save the World!
Mewn blwyddyn hynod lwyddiannus, mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn perfformio ar eu llwyfannau mwyaf erioed – yn Theatr y Sherman a thu hwnt iddi. Yn yr haf, mae eu perfformiad cyntaf erioed yn y Prif Theatr, sef The Hunting of the Snark, yn cael ei berfformio gan gast o 30. Nes ymlaen ym mis Hydref, mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn syfrdanu cynulleidfaoedd gyda pherfformiad yn seremonïau agoriadol a chloi Cwpan Rygbi’r Byd yn adeilad newydd sbon Stadiwm y Mileniwm.
Ar ôl torri recordiau’r swyddfa docynnau gyda sioe lwyfan gyntaf erioed Horrible Histories y flwyddyn flaenorol, mae Theatr y Sherman yn comisiynu Terry Deary i ysgrifennu Christmas Crackers ar gyfer tymor y gaeaf. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cymeradwyo’r cynllun i ffurfio cwmni ysgrifennu theatr dwyieithog, gyda nifer o ymgeiswyr yn cael eu hystyried, gan gynnwys Theatr y Sherman. Mae Sgript Cymru yn cael ei sefydlu.
Flwyddyn ar ôl ei sefydlu gan Simon Harries a Bethan James, mae Sgript Cymru yn chwilio am gartref parhaol. Adeg y Nadolig, mae dau o glasuron Roald Dahl yn cael eu perfformio ar y llwyfan mewn addasiadau newydd sbon – James and the Giant Peach a The Enormous Crocodile.
Mae grŵp theatr Y Gweithdy yn dyfeisio ac yn perfformio Dwli yn Theatr y Sherman ym mis Gorffennaf. Wedi hynny byddai’r sioe’n ymweld â Theatr Contact ym Manceinion, cyn perfformiad arall yng Ngŵyl Culture Shock Gemau’r Gymanwlad. Mae Theatr y Sherman yn cynnal Gŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd ym mis Hydref. Yn cael ei chynnal dros gyfnod o dair wythnos, dyma’r digwyddiad mawr cyntaf ar gyfer y ffurf hon ar gelfyddyd. Yn cynnwys sioeau cerdd wedi’u llwyfannu’n llawn, jazz a chabaret gyda’r hwyr, gweithdai addysgiadol, a pherfformiadau gan enillydd gwobr Olivier, Clive Rowe, yn chwarae’r brif ran yn Sadly Solo Joe.
Eleni mae Gwasanaeth Ysgol Cyngor Caerdydd, Coleg Glan Hafren a Theatr y Sherman yn cydweithio i lansio rhaglen Acting Out Cardiff. Mae’r prosiect, sydd ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 ac 11, yn mynd â nhw o’r ystafell ddosbarth, gan roi profiad ymarferol iddyn nhw gydag achrediad mewn amgylchedd celfyddydol proffesiynol. Mae’n llwyddiant ysgubol.
Mae The Borrowers yn cael ei lwyfannu adeg y Nadolig, ac yn ennill sawl gwobr, gan gynnwys gwobr Sgriptiwr y Flwyddyn ACE am addasiad Charles Way, a Gwobr Drama Orau yng Nghymru gan y Western Mail.
Mae llwyddiant y Sherman gyda sioeau Roald Dahl yn parhau gyda Danny the Champion of the World. Mewn partneriaeth ag Air Wales, mae ymgais i ganfod ‘Champion of the World’ i Gaerdydd yn dechrau. Mewn galwad agored i blant rhwng 6 a 12 oed, ceisiwyd dod o hyd i blant rhagorol a oedd wedi blaenoriaethu rhywun arall drostyn nhw’u hunain, neu a oedd wedi gwneud cyflawniad nodedig yn wyneb adfyd yn ystod y deunaw mis blaenorol.
Jack Thomas, 9 oed o Laneirwg enillodd, ar ôl codi £2,000 i Tŷ Hafan er ei fod yn dioddef â dystroffi cyhyrol Duchenne. Yn ystod rhediad y sioe, cynhaliodd y Sherman arddangosfa fawreddog o waith Quentin Blake, ac fe ymunodd yr artist a gweddw Roald Dahl, Felicity, â’r gwesteion ar gyfer noson agoriadol y sioe.
Mae Theatr y Sherman yn cymryd rhan yng Ngŵyl Doniau Cerddorol Ryngwladol Caerdydd. Ym mis Medi, mae Russell T. Davies, prif sgriptiwr Doctor Who sydd newydd ei adfywio, yn dod i siarad am y sioe mewn digwyddiad arbennig yn y Sherman i godi arian ar gyfer cymuned cwiar y de-ddwyrain. Wrth i Gaerdydd ddathlu ei chanmlwyddiant fel dinas, mae’r Sherman, ar y cyd â theatrau eraill ledled Caerdydd, yn cynnal gŵyl ddrama sy’n arddangos y gorau o fyd theatr gyfoes.
Mae cyfnod y Cyfarwyddwr Artistig Phil Clark yn dod i ben ar ôl 16 mlynedd, wedi cyfnod lle bu i’r Sherman ddatblygu enw ardderchog am waith i blant o ansawdd uchel, a wnaeth swyno cenhedlaeth a gosod y safon ar gyfer y dyfodol. Yn olynu Mr Clark mae’r Cyfarwyddwr newydd Chris Ricketts.
Mae fersiwn newydd o Educating Rita, wedi’i chyfarwyddo gan Phil Clark a’i gosod yng Nghaerdydd, yn cael ei chwarae i gynulleidfaoedd dros yr haf gyda Ruth Jones a Steve Spiers yn y prif rannau. Mae adolygiadau pum seren yn ei dilyn.
“Un o fy mherfformiadau cyntaf ar lwyfan oedd hefo’r Sherman fel rhan o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru gyda Rob Brydon, oedd o’n mor anhygoel i fod yn ôl ar y llwyfan yma. Oedd bron rhaid i mi gael fy ngwthio ar y llwyfan gan fy mod i’n teimlo’n mor nerfus, ond ar y cyfan, mae’n mynd yn dda.” Steve Speirs, Gorffennaf 2006.
Ar ôl blynyddoedd o drafodaethau, mae Theatr y Sherman yn ymuno’n swyddogol gyda Sgript Cymru i greu Sherman Cymru ar ei newydd wedd, gyda ffocws ar ysgrifennu newydd. Mae Maes Terfyn, cynhyrchiad cyntaf Sherman Cymru, yn cael ei lwyfannu ym mis Ebrill. Mae Sherman Cymru yn ymddangos ar ei newydd wedd, gyda gwefan a brandio newydd. Mae Menter Datblygu Artistiaid Ifanc y Sherman yn cael ei lansio.
Eleni mae un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y Sherman yn cael ei greu – Deep Cut, sy’n seiliedig ar stori rhieni milwr ifanc Cheryl James, a fu farw ym Marics Deepcut mewn amgylchiadau amheus. Aeth Deep Cut ymlaen i gael llawer o glod, gan fynd ar daith at gynulleidfaoedd llawn. Mae’r sioe’n chwarae yn Theatr Traverse Caeredin yn ystod yr Gŵyl Cyrion Caeredin, ac yn ennill gwobrau Fringe First a Herald Angel. Ym mis Awst, mae Yr Argae, sef addasiad Cymraeg o The Weir, yn cael ei lwyfannu, wedi’i gyflwyno i’r diweddar Wil Sam a gyfieithodd y darn.
Mae Theatr y Sherman yn parhau â’i gyweithiau llwyddiannus gyda’r sgriptiwr Gary Owen – sy’n awdur ar dair drama eleni, gan gynnwys addasiad o A Christmas Carol.
Mae blynyddoedd o waith ar wneud cais am ailddatblygiad mawr yn dechrau dwyn ffrwyth. Roedd y pensaer Jonathan Adams wedi sicrhau’r comisiwn ailddatblygu yn 2005, ond dim ond eleni y mae’r grant loteri o £3.9 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei gymeradwyo, gan ganiatáu i’r gwaith o ailddatblygu’r theatr ddechrau. Mae angen £1.5 miliwn arall i gwblhau’r prosiect, ac mae sawl ymdrech godi arian amrywiol yn digwydd, gan gynnwys aelodau staff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, a thaith gerdded noddedig 26 milltir i Ferthyr Tudful.
Ym mis Chwefror, mae Theatr y Sherman yn cau ar gyfer gwaith ailddatblygu mewn prosiect uchelgeisiol – mae pob rhan o’r adeilad gwreiddiol yn cael ei ail-fodelu. Er bod yr adeilad ar gau am ddeunaw mis, mae’r Sherman yn cynhyrchu gwaith newydd mewn lleoliadau eraill. Mae Llwyth gan Daf James, wedi’i chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, yn gwneud ei dangosiad cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Mae’r ddrama’n mynd ymlaen i ennill Cynhyrchiad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru, yn teithio ar hyd Cymru dair gwaith, yn diddanu cynulleidfaoedd yn Llundain a Chaeredin, ac yn 2012 mae’n cael ei pherfformio yng Ngŵyl Gelfyddydau Taipei yn Taiwan. Mae Llwyth yn dod yn glasur.
Gyda Theatr y Sherman yng nghanol cyfnod ailddatblygu o ddeunaw mis, mae sioeau’n parhau i gael eu cynhyrchu a’u perfformio mewn lleoliadau gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Chapter. Mae Desire Lines, wedi’i hysgrifennu gan Ian Rowlands a’i chyfarwyddo gan Irina Brown a aned yn Rwsia, yn ymdrin â chwestiynau am hunaniaeth genedlaethol, wrth i’r prif gymeriad lywio bywyd.
Mae Theatr y Sherman yn ail-agor! Mae cyntedd agored newydd wedi’i greu, ystafell ymarfer a gweithdy newydd wedi’u hadeiladu, ac mae pob rhan o’r adeilad wedi’i hail-ddylunio a’i moderneiddio. Yn fwyaf nodedig mae ymddangosiad allanol yr adeilad bellach yn ei osod ar wahân i adeilad y brifysgol drws nesaf iddo, gan ymestyn tuag allan ac wedi’i orchuddio mewn croen metelaidd sy’n disgleirio yn haul Caerdydd. Mae’r ailddatblygiad yn cael ei ddisgrifio fel enghraifft ardderchog o sut gellir adfywio adeiladau sy’n bodoli, a’u cynnal er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Say it with Flowers ddrama cof am cantores enwog Dorothy Squires, o Lanelli yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman i ddathlu ein penblwydd yn 40. Mae’r ddrama wedyn yn mynd ar daith ar draws Cymru yn 2013. Fe gafwyd i’w ysgrifennu gan Meic Povey & Johnny Tudor ag i gyfarwyddo gan Pia Furtado, mae’n ymddangos rhai o ganeuon mwyaf enwog Dorothy, gan gynnwys gast serenog o Ruth Madoc fel Dot ag Lynne Hunter fel Maisie.
Mae cyfnod Chris Ricketts fel Cyfarwyddwr yn dod i ben. Mae Rachel O’Riordan yn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig ac mae cyfnod newydd yn dechrau. Yn 2013, mae Theatr y Sherman yn un o bum sefydliad celfyddydol ledled Prydain i gael rhodd digymell dros gyfnod o bum mlynedd fel rhan o ddathliadau Sefydliad Paul Hamlyn ar gyfer ei ben-blwydd yn 25 oed.
Mae’r rhodd yn arwain at lansio rhaglen Sherman 5, sy’n rhoi cyfle i bobl ledled Caerdydd a’r de-ddwyrain sy’n wynebu rhwystrau ac sydd heb fod i berfformiad yn y theatr o’r blaen gael mynd i’r theatr. Byddai Sherman 5 yn dod yn rhan hynod bwysig o waith Theatr y Sherman.
Mae’r Sherman yn llwyfannu perfformiadau cyntaf y byd o Iphigenia in Splott, wedi’i hysgrifennu gan Gary Owen a’i chyfarwyddo gan Rachel O’Riordan, a fydd yn dod yn llwyddiant ysgubol ac yn cael ei pherfformio ledled y byd mewn sawl iaith. Ym mis Hydref, mae’r ddrama’n ennill Drama Newydd Orau yng Ngwobrau Theatr y Deyrnas Unedig. Mae cynhyrchiad Nadolig Prif Theatr Rachel O’Riordan, The Lion, The Witch and The Wardrobe, yn llwyddiant ysgubol.
Yn y gyfres gyntaf o gynyrchiadau cymunedol mawr, mae cymuned Waulah Cymru yn camu ar lwyfan y Prif Theatr i adrodd eu stori yn Home. Mae Theatr y Sherman yn llwyfannu Iphigenia in Splott yn y National Theatre, ar daith ledled Prydain ac yng Ngŵyl Cyrion Caeredin, lle mae’n ennill Gwobr James Tait Black ar gyfer Drama. Mae Bird gan Katherine Chandler, wedi’i chyfarwyddo gan Rachel O’Riordan, mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr y Royal Exchange yn llwyddiant ysgubol arall yn y Stiwdio. Cywaith a chomisiwn cyntaf Theatr y Sherman ar gyfer gŵyl ysgrifennu NEWYDD Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw All That I Am gan Daf James.
Mae’r flwyddyn yn cael ei diffinio gan y bartneriaeth hynod lwyddiannus rhwng Gary Owen a Rachel O’Riordan drwy dri chynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman. Ym mis Mawrth, mae’r Sherman yn llwyfannu dangosiad cyntaf y byd o ddrama ddiweddaraf Gary, Killology, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Royal Court Llundain. Mae Killology yn cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd llawn ac yn llwyddiant pum seren. Ym mis Ebrill a Mai, mae Iphigenia in Splott yn cael ei pherfformio yng ngŵyl FIND yn theatr eiconig Schaubuhne yn Berlin ac yng ngŵyl Brits Off Broadway yn Efrog Newydd.
Ym mis Hydref, mae dangosiad cyntaf y byd o ail-gread Gary o The Cherry Orchard yn cael ei lwyfannu yn y Sherman. Mae Killology a The Cherry Orchard ill dwy yn ymddangos yn rhestr 10 sioe theatr orau’r flwyddyn y Guardian.
Blwyddyn o lwyddiant ysgubol o ran gwobrau. Theatr y Sherman yw’r theatr gyntaf yng Nghymru i ennill Theatr Ranbarthol y Flwyddyn gan The Stage a Gwobr Olivier (Cyflawniad Eithriadol mewn Theatr Gyswllt am Killology, cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Royal Court). Mae’r cwmni preswyl dwyieithog, Cwmni Pluen, yn llwyfannu’r dangosiad cyntaf o’u cynhyrchiad Mags. Mae Lord of the Flies, dan arweiniad benywaidd Theatr y Sherman a Theatr Clwyd, yn chwarae i gynulleidfaoedd llawn yn y Prif Theatr. Ym mis Gorffennaf, mae dathliad pum mlynedd o Sherman 5 gyda phenwythnos o arddangosfeydd ffotograffiaeth, dangosiadau ffilm a gweithgareddau.
Mae Joe Murphy’n ymuno â’r Sherman ym mis Gorffennaf fel Cyfarwyddwr Artistig ar ôl i Rachel O’Riordan symud i’r Lyric Hammersmith ym mis Ionawr. Theatr y Sherman yw Theatr Noddfa gyntaf Cymru, i gydnabod ei hymrwymiad i wasanaethu cymuned ceiswyr lloches y de. Mae cynyrchiadau nodedig o ddramâu newydd Crëwyd yn y Sherman yn cynnwys dangosiad llwyddiannus cyntaf y byd o’r ddrama Gymraeg Woof gan Elgan Rhys, fersiwn newydd o The Taming of the Shrew gan Jo Clifford mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Tron yn Glasgow, a’r sioe glodwiw Lose Yourself gan Katherine Chandler.
Yn yr hydref, mae cynhyrchiad Chelsea Walker o Hedda Gabler yn llwyddiant mawr. Yn ddiweddarach byddai Heledd Gwynn yn ennill Gwobr Ian Charleson am ei pherfformiad yn y brif ran. Mae’r Sherman yn cael cyllid ychwanegol gan Sefydliad Paul Hamlyn i barhau â rhaglen Sherman 5 am bedair blynedd arall.
Cyn i bandemig Covid olygu achosi’r cyfnod clo, mae Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal dangosiad cyntaf y byd o Tylwyth gan Daf James, drama ddilynol i’w ddrama boblogaidd Llwyth. Mae pandemig Covid yn gorfodi’r Sherman i gau ei drysau am y tro. Mae’n gwasanaethu ei chynulleidfaoedd drwy’r cyfnodau clo gydag ystod o gynyrchiadau digidol gan gynnwys Mum & Dad gan Gary Owen, gyda Michael Sheen a Lyn Hunter yn serennu
Yn yr hydref, mae deg awdur o Gaerdydd yn cael eu comisiynu i greu dramâu sain yn adrodd straeon lleol yng nghyfres Calon Caerdydd. Gan nad oes modd i Theatr y Sherman groesawu teuluoedd i’r theatr dros y Nadolig, mae’n lansio calendr adfent digidol am ddim yn cynnwys perfformiadau digidol gan Hannah McPake, Ruth Jones, Michael Sheen a Rhys Ifans. Mae aelodau Sherman 5 yn cael y calendr adfent am ddim.
Daw cyfnod hynod bwysig David Stacey ar y bwrdd yn dod i ben ar ôl 33 mlynedd.
Ym mis Mai, mae Theatr y Sherman yn cyd-gynhyrchu dangosiad cyntaf y byd wedi’i lwyfannu’n llawn o The Merthyr Stigmatist gan Lisa Parry gyda Theatr Uncut. Roedd y ddrama ar restr fer gwobr Sgriptio Gwleidyddol Theatr Uncut, ac roedd i fod i gael ei llwyfannu yn hydref 2020 yn wreiddiol. Ym mis Awst, gyda’r cyfnod clo yn llacio, mae Theatr y Sherman yn ymuno â Theatr Iolo i ddarparu perfformiadau awyr agored i’r teulu, gan gynnwys dangosiad cyntaf y byd wedi’i lwyfannu o Crafangau gan Nia Morais, a oedd yn ddrama sain Calon Caerdydd yn wreiddiol.
Ym mis Hydref, mae’r Sherman yn ail-agor yn llawn (er bod hynny drwy gadw pellter cymdeithasol) gyda gŵyl o ddigwyddiadau a dramâu byrion iawn – Ymlaen â’r Sioe. Mae’r ŵyl yn cynnwys cynyrchiadau cyntaf o ddramâu gan Seiriol Davies, Rahim El-Habachi, Lowri Jenkins a Hannah McPake. Adeg y Nadolig, mae calonnau’r gynulleidfa’n cael eu codi gan gynyrchiadau o A Christmas Carol wedi’i addasu gan Gary Owen a’r Coblynnod a’r Crydd wedi’i addasu gan Katherine Chandler. Diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Adran Lenyddol newydd yn cael ei lansio yn Theatr y Sherman.
Mae rhaglen Theatr y Sherman yn rhedeg i’w llawn nerth. Ym mis Hydref, mae cynulleidfaoedd wrth eu boddau â chynhyrchiad dwyieithog Crëwyd yn y Sherman o A Midsummer Night’s Dream gydag addasiadau Cymraeg newydd gan Mari Izzard a Nia Morais. Ym mis Tachwedd, mae dangosiad cyntaf y byd o Tales of the Brothers Grimm gan Hannah McPake ac Elen Benfelen gan Elgan Rhys yn rhoi gwên ar wynebau teuluoedd. Mae’r Sherman yn lansio ystod o fesurau i helpu ei chymuned i daclo’r argyfwng costau byw.
Mae’r Sherman yn dathlu hanner can mlynedd fel theatr i Gaerdydd, i Gymru, i bawb. Mae Romeo and Julie, drama newydd gan Gary Owen wedi’i gosod yng Nghaerdydd, yn cael ei llwyfannu mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r National Theatre, wedi’i chyfarwyddo gan gyn-Gyfarwyddwr Artistig y Sherman, Rachel O’Riordan. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y National, ac yn rhedeg yn y Sherman ym mis Ebrill. Mae Romeo and Julie yn llwyddiant ysgubol gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, ac yn denu’r gynulleidfa fwyaf i’r Sherman ers y dim-degau, heblaw am sioeau Nadolig.
Ym mis Mai, mae’r Sherman yn cynnal y dangosiad cyntaf o’i drama hyd llawn cyntaf gan yr Awdur Preswyl Nia Morais mewn cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen, sy’n teithio ledled Cymru. Ym mis Awst, mae cymunedau ledled Caerdydd yn dod i lwyfan y Prif Theatr yn Love, Cardiff: 50 Years of your stories, i adrodd eu straeon ochr yn ochr â stori Harry ac Abe Sherman, y bu i’w sefydliad roi’r arian i greu Theatr y Sherman.