Craidd

Sbarduno newid cadarnhaol ar gyfer a gyda phobl Fyddar ac anabl ar draws sector theatr Cymru.
Cydweithrediad rhwng pum sefydliad o Gymru yw Craidd i ysgogi newid ystyrlon a chynaliadwy, gan wella cynrychiolaeth a chyfleoedd ar gyfer pobl Fyddar ac anabl (gan gynnwys pobl niwroamrywiol a phobl ag anableddau dysgu) ar draws sector theatr prif ffrwd Cymru. Ein nod ni yw sicrhau bod mynediad a chynhwysiant wrth graidd byd y theatr yng Nghymru.

Y sefydliadau dan sylw yw: Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae’r cam cyntaf hwn yn y cydweithio wedi cynnwys archwiliad o bob sefydliad, sgyrsiau sector, hyfforddiant helaeth, a diffinio map ffordd ar gyfer 5 mlynedd nesaf y rhaglen. Ar ôl ymgynghori fe wnaethon ni newid ein henw i Craidd (Ramps Cymru gynt). Cyn bo hir byddwn yn penodi 5 Asiant dros Newid a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr dros Newid i roi newid ar waith a gwneud byd y theatr yng Nghymru y mwyaf hygyrch yn y byd.

Open Casting – Under Milk Wood
Galwad Castio Agored ar gyfer actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol yng Nghymru.
Mae Theatr Clwyd yn cynnal galwad agored i actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol Cymreig / sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer cynhyrchiad teithiol newydd mawr fel rhan o Bartneriaeth Craidd.

Hoffwn gwrdd ag actorion Cymreig ac actorion sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n uniaethu fel actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol ar gyfer ein chynhyrchiad yn 2026 o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, wedi’i gyfarwyddo gan Kate Wasserberg, y cyntaf o bedwar cynhyrchiad fel rhan o bartneriaeth Craidd.

Rydym am wahodd actorion i wneud cais am le mewn cyfres o glyweliadau sy’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol yn 2025:

11 Mawrth ym Mhontio ym Mangor
14 Mawrth yn Tŷ Pawb yn Wrecsam
18 a 19 Mawrth yn Theatr y Sherman, Caerdydd
20 Mawrth yn y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 28 Chwefror, 12pm.
I ymgeisio, ewch i www.theatrclwyd.com/cy/take-part/artists/open-casting-under-milk-wood