Seiriol Davies
Artist Cyswllt: Actor, Awdur a Chyfansoddwr
Ar gyfer Theatr y Sherman: The Messenger.
Mae Seiriol yn canu, yn actio, yn ysgrifennu ac yn cyfansoddi. Derbyniodd ei hyfforddiant yn LISPA gan ddechrau ei yrfa ym myd cabaret. Mae wedi gweithio gyda chwmnïau fel Punchdrunk, Gideon Reeling a Brian Catling, mae'n un o sylfaenwyr cydweithfa gelf / label recordio Beatabet yn Brighton, a'r band roc Temper Temper, a bu’n perfformio fel un hanner y ddeuawd pync Underbling & Vow. Mae bellach yn gweithio'n bennaf ym myd y theatr. Yn 2016, fe ysgrifennodd a bu’n serennu yn ei sioe gerdd gyntaf, How to Win Against History, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2016, ble y derbyniodd yr adolygiadau gorau yn yr ŵyl gyfan. Dychwelodd i'r ŵyl gyda’r sioe yn 2017 cyn teithio'n helaeth, a pherfformio rhediad yn yr Young Vic yn Llundain. Enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr The Stage Caeredin a Gwobr Theatr Cymru (Cynhyrchiad Teithiol Gorau). Enwebwyd Seiriol hefyd am Wobr UK Theatre am y Perfformiad Gorau mewn Sioe Gerdd am ei bortread o Henry. Fel actor, awdur a chyfansoddwr, mae wedi gweithio gyda chwmnïau megis The Old Vic, The Gate Theatre, English National Opera, National Theatre Wales, y Lyceum yng Nghaeredin, a llawer mwy.