Adopt A Seat Email

Uncategorized @cy
Yn dilyn ein hymchwiliad, gweler ein datganiad isod ynglyn a’r e-byst Mabwysiadu Sedd ag anfonwyd mewn camgymeriad ar Hydref 21, 2022.

Cedwir cyfeiriadau e-byst cwsmeriaid a chofnodion data gan Theatr y Sherman ar ein cronfa ddata cwsmeriaid am un o’r rhesymau canlynol: marchnata a chodi arian, gwasanaeth cwsmer i rai sydd wedi archebu tocyn neu wedi cymryd rhan mewn cynllun ymgysylltu creadigol yn y gorffennol, ac ar gyfer cyfathrebu ag aelodau Sherman 5 a chydweithwyr yn y sector theatr.

Ar ddydd Gwener, Hydref 21 roeddem yn profi’r system sy’n gyrru e-byst wedi’u hamserlennu, a hynny er mwyn diolch i gwsmeriaid sydd wedi manteisio ar ein cynllun Mabwysiadu Sedd. Yn ystod y profion, yn dilyn gwall dynol, cafodd ebost ei yrru mewn camgymeriad at ein cronfa ddata cwsmeriaid, oedd yn cynnwys yr e-bost gwasanaeth cwsmer prawf hwn. Rydym yn llwyr ddeall y pryder, y dryswch a’r anghyfleustra y bydd y camgymeriad hwn wedi’i achosi ac ymddiheurwn yn ddiffuant am hyn. Anfonwyd e-bost i bawb ag effeithiwyd gan hyn o fewn 43 munud.

Hoffem dawelu meddwl unrhyw un a dderbyniodd yr e-bost hwn nad oedd unrhyw dor-cyfraith data, ni chyfaddawdwyd ein cronfa ddata, ni chollwyd, datgelwyd na newidiwyd unrhyw ddata.

Fel elusen gofrestredig rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif ac yn adolygu ein systemau i sicrhau nad yw’r math hwn o gamgymeriad yn digwydd eto.

Os hoffech wneud cais i ddileu eich cofnod data yn barhaol neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch data.protection@shermantheatre.co.uk

Diolch am eich dealltwriaeth.