Mae’r Pleasance yn gweithio gyda theatrau partner ledled Prydain i nodi a chefnogi artistiaid a chwmnïau lleol eithriadol sydd am fynd â’u gwaith i Ŵyl y Cyrion. Mae pob partner yn dŷ cynhyrchu cenedlaethol blaenllaw, gydag ymrwymiad i gefnogi a datblygu artistiaid newydd.
Ar gyfer 2025 rydyn ni’n falch iawn o fod yn un o’r sefydliadau partner ochr yn ochr â’r Theatr Royal Plymouth, Curve Caerlŷr, Theatr Gŵyl Pitlochry a Lyric Belfast.
Gan weithio gyda’r Pleasance, byddwn yn nodi artistiaid deinamig ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd, a phrif nod y cynllun yw darganfod a chefnogi’r cwmnïau a’r artistiaid gorau o Gymru, ac o bob rhan o wledydd Prydain, i gyflwyno’u gwaith yng Ngŵyl y Cyrion!
Yn 2024, ein derbynnydd ni ar gyfer Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin oedd Polly & Esther. Yn dilyn eu rhediad hynod lwyddiannus yng Nghaeredin, byddan nhw’n mynd â’u sioe i Ŵyl Cyrion Adelaide yng ngwanwyn 2025.
Yn 2023, gyda chefnogaeth y Sherman a’r Pleasance, aeth StammerMouth â CHOO CHOO! (Or… Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have)) i Ŵyl y Cyrion yn dilyn rhediad yn y Sherman. Enillodd y sioe Wobr Tro Cynta’r Cyrion a Gwobr Sefydliad Iechyd Meddwl Gŵyl y Cyrion 2023.
Yn 2022, ar y cyd â’r Sherman a’r Pleasance, a gyda chefnogaeth The Other Room, aeth difficult|stage â sioe An Audience With Milly-Liu i Ŵyl y Cyrion. Roedd sioe drag cath un dyn François Pandolfo, a gyfarwyddwyd gan Dan Jones, yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, gan ennill Gwobr Talent Newydd David Johnson ym mlwyddyn gynta’r wobr.
I wneud cais am y cyfle yma, gweler y manylion isod.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
• Sicrwydd o gael eich cynnwys yn rhaglen Gŵyl Cyrion Caeredin y Pleasance.
• Lleiafswm o £2000 o gyllid tuag at gostau cyflwyno’ch sioe yng Ngŵyl y Cyrion.
• Gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus gan Michelle Mangan.
• Pecyn o waith marchnata a hysbysebu i gefnogi ymgyrch eich sioe benodol chi.
• Talu ffi gofrestru Gŵyl Cyrion Caeredin.
• Lleiafswm o wythnos o ofod ymarfer a datblygu mewn nwyddau a rhediad o berfformiadau rhagflas yn Theatr y Sherman.
• Cymorth i ddatblygu a chyflwyno perfformiadau hygyrch fel rhan o’ch rhediad yng Ngŵyl y Cyrion
• Mentoriaeth, cefnogaeth a chyngor gan Theatr y Sherman a’r Pleasance yn y cyfnod cyn ac yn ystod Gŵyl y Cyrion.
• Posibilrwydd o gael eich cynnwys wrth raglennu tymor trosglwyddo Pleasance Llundain yn dilyn Gŵyl y Cyrion.
• Cefnogaeth i ddatblygu perthnasau teithio newydd.
Sut i wneud cais:
Anfonwch y manylion isod aton ni yn ysgrifenedig neu ar ffurf fideo neu ffeil sain – beth bynnag sydd orau i chi – i admin@shermantheatre.co.uk
• Eich manylion (enw’r cwmni/artist, teitl y sioe, enw a manylion cyswllt y prif gyswllt)
• Gwybodaeth am yr artist/cwmni a’ch sioe
• Pwy yw’r gynulleidfa darged a pham?
• Pam mae gyda chi ddiddordeb mewn perfformio yng Ngŵyl Cyrion Caeredin?
• Pam mae’r cyfle yma’n bwysig i chi a’ch datblygiad?
• Pam hoffech chi gael cefnogaeth Theatr y Sherman?
Y dyddiad cau yw 24 Chwefror am hanner dydd.
Bydd y diwrnod dethol yn cael ei gynnal ar 27 Chwefror.