THEATR Y SHERMAN AR RESTR FER GWOBR THEATR Y FLWYDDYN THE STAGE AM YR AIL DRO

Uncategorized @cy
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Theatr y Flwyddyn yng Ngwobrau The Stage 2025.

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer eleni, dywedodd The Stage: “Mae’r cyfarwyddwr artistig Joe Murphy a’r prif weithredwr Julia Barry wedi profi eu hunain yn fedrus wrth feithrin a chyflwyno straeon sy’n siarad â chymuned leol y Sherman yn ne Cymru, ond sydd hefyd â chyseinedd ehangach.”

Mae cyd-enwebeion y Sherman yn cynnwys @sohoplace yn Llundain; Curve yng Nghaerlŷr; Nottingham Playhouse; The Orange Tree Theatre yn Llundain a Regent’s Park Open Air Theatre, Llundain.

Bydd seremoni Gwobrau The Stage 2025 yn cael ei chynnal ddydd Llun 20 Ionawr yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy: “Rydym wrth ein bodd i fod ar y rhestr fer ar gyfer hon, y wobr fwyaf mawreddog i’r sector, am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydym yn hynod falch o’r cynyrchiadau ddaeth yn benodol at sylw’r beirniaid – gyda rhai ohonynt yn mynd ar daith yn 2025 oherwydd y galw poblogaidd – felly mae’r gydnabyddiaeth hon o’n llwyddiannau yn golygu llawer iawn ac rydym yn ddiolchgar i dîm cyfan y Sherman am eu gwaith caled.”

Meddai’r Prif Weithredwr Julia Barry: “Mae’r enwebiad hwn ar frig blwyddyn hynod lwyddiannus arall i Theatr y Sherman, a welodd nifer cynyddol y gynulleidfa ar gyfer ein cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman drwy gydol 2024. Rhaid diolch yn fawr iawn i’n holl staff, gweithwyr llawrydd, cynulleidfaoedd a chefnogwyr, y mae pob un ohonynt yn rhannu’r clod am y gydnabyddiaeth hon o’n gwaith.”