Y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy i adael Theatr y Sherman yng ngwanwyn 2025

Announcements Cyhoeddiadau
Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei Chyfarwyddwr Artistig, Joe Murphy, yn gadael y cwmni i fynd i swydd Cyfarwyddwr Artistig Birmingham Rep yn y gwanwyn.

Daeth Joe yn Gyfarwyddwr Artistig ym mis Gorffennaf 2019, a dan ei arweinyddiaeth artistig, mae cynyrchiadau theatr nodedig a hynod boblogaidd Crëwyd yn y Sherman wedi bod yn adrodd straeon o’r de-ddwyrain gyda pherthnasedd byd-eang. Mae’r cynyrchiadau o ddramâu gan awduron sy’n byw neu’n dod o Gymru wedi taro tant gyda chynulleidfaoedd y Sherman, sydd bellach yn fwy nag oedden nhw cyn y pandemig, wedi cyfoethogi canon dramatig Cymru, ac wedi sicrhau safle’r Sherman fel un o theatrau pwysicaf gwledydd Prydain. Ymhlith deunaw cynhyrchiad cyntaf y byd o ddramâu gan awduron sy’n byw neu’n dod o Gymru yn ystod cyfnod Joe mae: Odyssey ’84 gan Tim Price, Hansel a / and Gretel gan Katie Elin-Salt, Tales of the Brothers Grimm gan Hannah McPake, Crafangau / Claws gan Nia Morais – gyda Joe yn cyfarwyddo; Housemates gan Tim Green (cyd-gynhyrchiad gyda Hijinx) a gyd-gyfarwyddwyd gan Joe a Ben Pettitt-Wade; yn ogystal â The Women of Llanrumney gan Azuka Oforka ac Imrie gan Nia Morais (cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen). Mae llawer o’r llwyfaniadau cyntaf hyn o ganlyniad i gyfraniad Adran Lenyddol y Sherman, a sefydlwyd gan Joe yn 2021 ac sy’n cael ei chefnogi gan gyllid Cyngor y Celfyddydau. Mae’r Adran Lenyddol wedi cadarnhau rôl y Sherman ymhellach fel peiriandy theatr Cymru, a’i safle canolog i theatr y de-ddwyrain.

Ar ddechrau ei gyfnod, bu Joe’n goruchwylio rhaglen artistig a ymatebodd yn gyflym i’r heriau a achoswyd gan bandemig Covid 19 gyda gwaith a fu’n diddanu cynulleidfaoedd ac yn cefnogi artistiaid drwy’r cyfnodau clo. Ers i Theatr y Sherman ail-agor ei drysau yn hydref 2021, mae Joe wedi canolbwyntio ar greu cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman fel ffynhonnell allweddol o obaith, goleuni a chysylltiad ar gyfer cynulleidfaoedd yn ystod adegau heriol.

Bob dydd, mae Theatr y Sherman yn ymdrechu i wireddu ei gweledigaeth sy’n fwy teg, yn fwy tosturiol, yn fwy unedig yn sgil pŵer y theatr. Mae’n gwneud hyn drwy greu a churadu theatr eithriadol ar gyfer pobl y de-ddwyrain a thu hwnt, drwy feithrin awduron sy’n byw neu’n dod o Gymru, drwy ysbrydoli pobl ifanc, a thrwy gysylltu cymunedau.

Bydd Theatr y Sherman yn cyhoeddi cynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman cyntaf 2025 yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Meddai Ceri Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr “O dan arweinyddiaeth Joe a’r Prif Weithredwr Julia Barry, mae’r Sherman yn theatr y gall Cymru gyfan fod yn falch ohoni: gyda chlod feirniadol, cydnabyddiaeth drwy wobrau, a phroffil cynyddol ledled gwledydd Prydain.  Mae hi wedi bod yn bleser cael gweithio’n agos gyda Joe, a mawr fydd y golled ar ei ôl, ond mae’r camau breision mae e wedi’u cymryd wrth ddatblygu gwaith artistiaid sy’n byw neu’n dod o Gymru a chreu gwaith sy’n denu cynulleidfaoedd cynyddol bellach wedi’u gwreiddio yn y sefydliad, a byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y gwaddol y bydd Joe yn ei adael gyda ni. Mae’r Bwrdd yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei her newydd yn Birmingham Rep.”

Meddai Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman: “Mae hi wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cael arwain y Sherman dros y pum mlynedd diwethaf.  Dyma’r swydd fwyaf cyffrous a gwerth chweil ym myd theatr Cymru, ac ar ôl hanner degawd o wasanaethu cynulleidfaoedd, cefnogi a meithrin artistiaid a llywio’n ffordd drwy’r pandemig, mae’n bryd rhoi cyfle i rywun arall weithio yng nghwmni fy nghydweithwyr rhagorol.  Oherwydd dyna beth yw’r Sherman.  Nid yr adeilad, ond y bobl.  Y gymuned.  Pawb sydd wedi gweithio ar ein sioeau, neu sydd wedi’u gweld, sydd wedi bod yn yr adeilad neu sydd wedi cysylltu drwy’r adran Ymgysylltu Creadigol.  Ac alla i ddim meddwl am ddim byd mwy arbennig yn y byd na hynny, na chwaith am le mwy arbennig i’w brofi na’r Sherman.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhannu’r pum mlynedd diwethaf gyda fi.”

Meddai Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Mae hi wedi bod yn bleser pur gweithio ochr yn ochr â Joe dros y pum mlynedd diwethaf.  Fel sy’n wir am bob sefydliad celfyddydol, rydyn ni wedi wynebu amrywiaeth o heriau yn ystod y cyfnod yma, ond drwy roi ein cynulleidfaoedd wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni wedi gallu ymateb a chysylltu gyda’n cynulleidfaoedd cynyddol. Mae’r gwaith ardderchog mae Joe wedi’i greu ar gyfer pobl y de-ddwyrain – o Housemates, i A Christmas Carol, i Odyssey ’84 – wedi’n galluogi ni i ddarparu cysylltiadau ystyrlon a nosweithiau gwych o adloniant ar draws cenedlaethau o gynulleidfaoedd.  Wrth i ni edrych tua’r cam nesaf yn stori’r Sherman, rwy’n hyderus ein bod ni, gyda’n tîm anhygoel yn y Sherman a’n cymuned eithriadol o artistiaid, mewn sefyllfa gref i adeiladu ar y gwaddol hwn a pharhau i gynnig profiadau creadigol gwych i’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau.”