Gweithgaredd Hanner Tymor

Uncategorized @cy
Fel rhan o’n Gweithgareddau Hanner Tymor, mae Theatr y Sherman yn falch iawn o allu cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol AM DDIM i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed.

Isod mae manylion y gweithdai hanner tymor rydym yn eu cynnig fel rhan o’n rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu hynod boblogaidd a llwyddiannus. Mae’r gweithdai hyn yn cynnig lle i bobl ifanc archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, yn ogystal â rhannu eu llais ag eraill, gyda chymorth awduron, cyfarwyddwyr ac actorion proffesiynol.

Rydym yn cynnig y gweithgareddau hyn AM DDIM diolch i gefnogaeth hael gan Sefydliad Moondance.

Straeon Arswydus: Gweithdy Ysgrifennu Drama Am Ddim
Dydd Llun, Hydref 31, 10yb – 4yp

Ar ddydd Llun, Hydref 31, bydd Theatr y Sherman yn agor ei drysau i holl ysbrydion, gwrachod a bwganod Caerdydd i gymryd rhan mewn diwrnod arswydus o ysgrifennu dramâu. Wedi’i hwyluso gan ddramodwyr proffesiynol sy’n caru popeth brawychus, a Gwneuthurwyr Theatr y Sherman, bydd y gweithdy hwn yn ofod creadigol diogel a chynhwysol i bob person ifanc.

Cynigir y gweithdy AM DDIM i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i’r felin.
Felly, cydiwch yn eich crochan, eich ysgub a’ch sgrechfeydd gorau ac ymunwch â ni am ddiwrnod o ysgrifennu creadigol iasol.
Bydd y gweithdy dychrynllyd o wych hwn yn cael ei gynnal o 10yb tan 4yp yn Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE.

Pwy ydw i? Pwy wyt ti? Gweithdy Ysgrifennu Drama am Ddim
Dydd Mawrth, Tachwedd 1, 10yb – 2yp

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 1 bydd Theatr y Sherman yn cynnal gweithdy ysgrifennu dramâu i greu a datblygu cymeriadau. Bydd cyfle i archwilio pwy ydyn ni trwy greu cymeriadau. P’un a ydych wedi ysgrifennu o’r blaen neu os hoffech roi cynnig arni, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ddarganfod yr holl gymeriadau rhyfeddol sydd yn eich pen.

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei hwyluso gan ddramodwyr a gwneuthurwyr theatr proffesiynol a bydd yn fan creadigol diogel a chynhwysol i bob person ifanc. Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal rhwng 10yb a 4yp ac yn cael ei gynnig AM DDIM. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i’r felin.

Yn y Dechreuad: Gweithdy Ysgrifennu Dramâu Am Ddim
Dydd Gwener, Tachwedd 4, 11yb – 5yp

Dechrau sydd anoddaf bob amser. P’un a ydych wedi ysgrifennu o’r blaen neu erioed wedi rhoi cynnig arni, rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddechrau arni. Ac oherwydd hyn, ar ddydd Gwener, Tachwedd 4, bydd Theatr y Sherman yn gwahodd pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu dramâu er mwyn eu helpu i ddechrau ysgrifennu’n greadigol. Gyda chymorth dramodwyr a gwneuthurwyr theatr proffesiynol, rydym am roi pensil a phapur i’r bobl ifanc i adrodd eu stori.

O 10yb tan 4yp byddwn yn croesawu pobl ifanc i’n hystafelloedd ymarfer i ddod o hyd i’w dechreuad. Rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn dod o hyd i le y gallant berthyn, lle gallant fod yn nhw eu hunain ac archwilio’r straeon anhygoel y maent am eu hadrodd. Cynigir y gweithdy hwn AM DDIM. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i’r felin.

I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tim ac Isaac ar itp@shermantheatre.co.uk