Mae Theatr y Sherman yn chwilio am amryw o grëwyr i weithio ar y cyd â chwmni o berfformwyr ifanc trwy gyfres o sesiynau i greu eu cynhyrchiad nesaf.
Mae Theatr Ieuenctid y Sherman ar gyfer pobl ifanc. Mae’n fan lle gallant berthyn, ond yn bwysicach oll mae’n fan lle gallan nhw fod yn nhw eu hunain ac archwilio beth sy’n bwysig iddynt.
Bob wythnos mae ein pobl ifanc rhwng 4 a 18 oed yn magu hyder trwy ddysgu sgiliau newydd, cael hwyl a chreu ffrindiau newydd yn ein Grwpiau Theatr Ieuenctid. Mae sgiliau cymdeithasol, sgiliau datrys problemau a gwaith tîm hefyd yr un mor bwysig i’n pobl ifanc yn ein Theatr Ieuenctid.
Dilynwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth am bob swydd:
Cyfarwyddwr
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Cynllunydd
Arweinydd Grŵp Dan Hyfforddiant