Mae rhaglen datblygu talent genedlaethol Frantic Assembly, sy’n rhad ac am ddim, ar y ffordd i Theatr y Sherman

Uncategorized @cy
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn bartneriaid â Frantic Assembly eleni ar eu rhaglen datblygu talent flaenllaw, sy’n rhad ac am ddim, sef Ignition.

DIM OFN. DIM DAL NÔL.

BETH YW IGNITION?
Ignition yw rhaglen datblygu talent genedlaethol Frantic Assembly, sy’n rhad ac am ddim, ac sy’n chwilio am dalent sy’n cael eu tangynrychioli ymhob cwr o’r wlad. Ac am y tro cyntaf erioed, mae nawr yn agored i BAWB rhwng 16 a 24 oed.

SUT MAE’N GWEITHIO?
Yr hydref hwn, bydd Frantic Assembly yn teithio ledled y DU i ddarparu sesiynau blasu a gweithdai prawf AM DDIM ar y cyd â’u 11 partner rhanbarthol. Mae sesiynau blasu a gweithdai prawf Frantic Ignition yn llawn egni ac yn cael eu hwyluso ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau wrth gael mynediad i’r celfyddydau; maent yn ymweld a theatrau a gofodau eraill er mwyn gadael i bobl ifanc wybod fod y celfyddydau ar eu cyfer nhw.

Yna byddant yn dewis 24 o bobl ifanc i ymuno â nhw yn Llundain yn ystod wythnos olaf mis Hydref i ddyfeisio a pherfformio DAU gynhyrchiad gwreiddiol yn Theatr Brixton House.

A FYDD SESIYNAU BLASU A GWEITHDAI PRAWF YN CAEL EU CYNNAL YN FY ARDAL I?
Eleni bydd Frantic Assembly yn hwyluso sesiynau blasu a gweithdai prawf yn rhad ac am ddim yn y lleoliadau canlynol:

• Birmingham Hippodrome
• Corby Cube
• MAST Mayflower Studios
• Leeds Playhouse
• Theatre Royal Plymouth
• Theatr y Sherman – Rhagflas 10 Sep / Treialon 17 Sep
• Lyric Belfast
• Norwich Theatre
• Brixton House
• East London Theatre School (UEL)
• Edinburgh Dancebase
• Liverpool Everyman & Playhouse
• The Northern Stage

Archebwch nawr drwy Eventbrite.

Dydd Gwener 17 Medi 2022 (Gweithdai Treialu)
1.30yp – 3.30yp: archebwch
4.00yp – 6.00yh: archebwch

WYTHNOS DDWYS IGNITION
Bydd 24 o bobl ifanc yn ymuno â Frantic Ignition yn Llundain am wythnos ddwys o ddyfeisio gan ddefnyddio Dull Frantic er mwyn creu dau gynhyrchiad gwreiddiol cyhoeddus yn Brixton House. Bydd Frantic Assembly yn talu am holl dreuliau yr wythnos ddwys. Mae Ignition hefyd yn darparu rhaglen hyrwyddo mynediad trwy gydol y flwyddyn sy’n parhau i hyfforddi, mentora a chyfeirio at hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa gyda Frantic Assembly a’u partneriaid ledled y Deyrnas Unedig.

FAQS A CHWESTIYNAU TREIALOL

Pa mor hir yw’r gweithdai blasu a threialu?
Mae’r gweithdai blasu’n 90 munud. Mae’r gweithdai treialu yn 120 munud.

Beth ddylwn i ei wisgo i’r gweithdai blasu a threialu?
Mae’r ddau fath o weithdy yn seiliedig ar symud. Dylech wisgo dillad llac a chyfforddus, ac esgidiau/treinyrs sy’n addas ar gyfer ymarfer corff. Peidiwch â gwisgo sgert, jîns, na gemwaith.

Os na alla i ddod i’r gweithdai blasu, ga i ddod i’r gweithdai treialu?
Cewch! Mae mynd i’r gweithdai blasu a threialu’n ddewisol. Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn dod i’r ddau, ond rydyn ni’n deall nad yw hyn bob amser yn bosib oherwydd amserlen.

Faint o weithdai blasu a threialu alla i fynd iddyn nhw?
Allwch chi ddim ond cofrestru a mynd i un gweithdy blasu a/neu un gweithdy treialu.