The real-life story behind Dance to the Bone

Uncategorized @cy

Strasbourg, 1518. Mae twymyn dirgel, sydd weithiau’n farwol, ac sy’n gorfodi’r rhai sydd wedi’u heintio i ddawnsio, yn gwneud ei ffordd drwy strydoedd y ddinas. 500 mlynedd yn ddiweddarach yn ne Cymru, mae’r dwymyn yn dychwelyd. Mae Joanne Bevan, sef gweithwraig unig a rhwystredig mewn canolfan alwadau, yn teimlo ei bod wedi’i datgysylltu oddi wrth ei theulu, ei chymuned a’i chorff ei hunan.

Un diwrnod mae Sant Vitus, sef nawddsant dawnsio, yn ymweld â hi ac yn ei gwahodd i ddawnsio i gael gwared ar ei phroblemau. Ond beth fydd yn digwydd os yw hi wedi anghofio sut i ddawnsio? Beth fydd yn digwydd os na fydd hi’n gallu stopio? Beth fydd yn digwydd os bydd y dwymyn yn lledaenu?

Dros 500 mlynedd yn ôl, daeth gorffwylledd rhyfedd i feddiannu dinas Strasbwrg. Cafodd dinasyddion yn eu cannoedd eu cymell i ddawnsio, am ddim rheswm amlwg — gan symud mewn llesmair am ddyddiau tan iddyn nhw gwympo’n anymwybodol neu, mewn rhai achosion, cwympo’n farw.

Beth oedd y ‘plâu dawnsio’ yma? Beth wnaeth eu hachosi? Oedden nhw’n afiechydon go iawn, neu’n rhai dychmygol?

Ym mis Gorffennaf 1518, camodd menyw y dywedir mai ei henw oedd Frau Troffea i’r stryd a dechrau dawnsio. Ymddangosai fel pe na bai’n gallu stopio, a pharhaodd i ddawnsio nes iddi lewygu o flinder.

Ymhen wythnos, roedd 34 o bobl wedi ymuno â hi; ac erbyn diwedd y mis, 400 o bobl. Ar anterth y gorffwylledd dawnsio, roedd 15 o drigolion yn marw bob dydd o strôc, trawiad ar y galon, a blinder llwyr. Bydden nhw’n parhau yn hir ar ôl cael anafiadau. Roedd awdurdodau’r ddinas wedi’u dychryn gan y cynnydd parhaus yn nifer y dawnswyr.

Roedd Frau Troffea wedi’i meddiannu am rhwng pedwar a chwe diwrnod cyn i’r awdurdodau lleol ymyrryd a’i hanfon mewn wagen 30 milltir i ffwrdd i Saverne. Roedd yn bosib y byddai’n cael ei hiacháu yno wrth gysegrfa Vitus, y sant y credid iddo ei melltithio. Ond roedd rhai o’r bobl a welodd ei pherfformiad od wedi dechrau ei dynwared, ac ymhen dyddiau roedd mwy na 30 o ‘goreomaniacs’ – fel maen nhw’n cael eu galw bellach – yn symud, a rhai mor ddifrifol nes mai dim ond marwolaeth fyddai’n eu stopio.

Er mwyn stopio’r dawnsio, ceisiodd swyddogion y dref wella’r sefyllfa drwy logi cerddorion ac adeiladu llwyfan enfawr yn y gobaith y byddai’r gorffwylledd yn pylu. Yn anffodus, wnaeth hyn ddim byd ond annog mwy o bobl i ymuno yn yr ysfa gyda chymaint â 400 o bobl wedi’u meddiannu gan orfodaeth i ddawnsio yn y pen draw. Bu sawl un ohonynt farw o’u hymdrech. Roedd Frau Troffea wedi gwella ar ôl ei thaith i gysegrfa Sant Vitus, felly ceisiwyd hyn gyda’r dioddefwyr eraill. Ar ôl cyrraedd, byddai’r Offeiriaid yn eu gosod, yn dal i ddawnsio fwy na thebyg, o dan gerflun pren o Vitus. Bydden nhw’n rhoi croes fach yn eu dwylo ac esgidiau cochion ar eu traed. Ar wadn a thopiau’r esgidiau, bydden nhw’n ysgeintio dŵr sanctaidd ac yn paentio croesau o olew cysegredig.

Ddechrau mis Medi dechreuodd y gorffwylledd dawelu, ond fe barodd ymhell dros chwe wythnos, gyda phedair wythnos ar ei anterth, yn meddiannu’r dref. Ar y diwrnodau gwaethaf, roedd 15 o bobl yn marw bob dydd. Nid yw’n hysbys beth yw cyfanswm nifer y marwolaethau, ond os oedd y gyfradd ddyddiol yma’n wir, gallai fod yn gannoedd.

Daeth yr achos yma i gael ei adnabod fel ‘haf y dawnsio’. Nid dyma’r cystudd dawnsio cyntaf, na’r olaf, o’i fath – roedden nhw wedi digwydd yn rhanbarthau’r Rhein a Moselle ar sawl achlysur ers y bedwaredd ganrif ar ddeg hefyd. Serch hynny, dyma oedd y mwyaf angheuol a’r achos a gofnodwyd helaethaf.

Mae un cronicl o’r ail ganrif ar bymtheg gan y cyfreithiwr o Strasbwrg, Johann Schilter, yn dyfynnu cerdd lawysgrif sydd bellach ar goll:
Yn Strasbwrg gwelwyd cannoedd
Yn dawnsio a hercian, menywod a dynion,
Yn y farchnad gyhoeddus, yn y lonydd a’r strydoedd,
Ddydd a nos; heb fwyta dim
Tan i’r salwch eu gadael o’r diwedd.
Enwyd y cystudd yn ddawns Sant Vitus.

(Dyfynnwyd yn Louis Backman, Religious Dances in the Christian Church and in Popular Medicine, 1952)
Mae cronicl arall o 1636 yn sôn am ddiweddglo llai llawen:
‘Yn y flwyddyn 1518 OC … digwyddodd ymhlith dynion afiechyd hynod ac ofnadwy o’r enw dawns Sant Vitus, lle byddai dynion yn eu gwallgofrwydd yn dechrau dawnsio ddydd a nos tan iddyn nhw gwympo’n anymwybodol ac ildio i farwolaeth.’

Roedd llawer o adroddiadau ar y pryd o’r hyn ddigwyddodd. Ond beth am pam y digwyddodd? Mae llawer o ddamcaniaethau, o feddiant y cythraul i fadarch.

Mae’r ‘plâu dawnsio’ yma’n cael eu cysylltu’n aml â ‘Dawns Sant Vitus’, a gaiff hefyd ei galw’n ‘y cryndod’, ‘corea Sydenham’, ‘corea leiaf’, ‘corea heintus’ neu ‘corea rhiwmatig’… sydd oll yn eu hanfod yn ffyrdd o gategoreiddio’r dawnsio heintus, anwirfoddol yma nad oedd modd ei stopio. Rydyn ni’n gwybod erbyn hyn bod effeithiau’r anhwylder yma’n cynnwys ystod o symptomau, ac nid ‘dawnsio’ yn unig. Roedd y ‘dawnsio’ a adroddwyd, boed yn ddawns Sant Vitus neu’n corea Sydenham, yn cynnwys gwingfeydd anwirfoddol gan y corff, gydag effaith ar leferydd hefyd o bosib. Gallai’r ‘hysteria torfol’ a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau yma hefyd fod wedi bod oherwydd y cyflwr yma. Yn wir, gellir olrhain yr holl symptomau yma i dwymyn rhiwmatig.

Ar adeg pla 1518, cafodd Sant Vitus ei feio’n rhannol oherwydd yr ofn ei fod wedi achosi’r salwch, a’r gred bod mynd â’r cystuddiedig i’w gysegrfa yn eu gwella. Serch hynny, mae’n bosib nad dawns Sant Vitus na corea Sydenham oedd ar bawb a gafodd eu heffeithio.

Er bod llawer o ddamcaniaethau yn canolbwyntio ar wenwyno neu ddefnydd posib o gyffuriau, mae’r hanesydd John Waller yn egluro mai eu sefyllfa arweiniodd nhw yno. Plâu ardaloedd eraill, cnydau yn methu, achosion o glefydau eraill, ac yn olaf, pobl yn hynod o hawdd dylanwadu arnynt mewn adegau o straen. Gan fod pobl yn credu yn nialgarwch Sant Vintus, yn unigol ac yna fel torf, fe wireddon nhw’r dial. Yn amlwg, daeth elfen o hysteria torfol hefyd yn rhan ohono. Ond mewn gwirionedd, mae Waller yn dweud bod straen bywyd wedi arwain iddyn nhw ei gredu cymaint, nes iddo ddigwydd. Amlygodd y dioddefaint fel dawns hysterig gan fod y dinasyddion yn credu bod hynny’n bosib.

Wrth gwrs, mae gan y plâu dawnsio debygrwydd arall — diwylliant rêfs modern. Er eu bod fel arfer heb y traed gwaedlyd a’r pledio am drugaredd fel ‘coreomaniacs’ yr unfed ganrif ar bymtheg, ac yn aml yn cynnwys ychydig o gymorth cemegol, nid yw’n anghyffredin i bartïwyr ddawnsio am ddyddiau heb seibiant, heb gysgu na bwyta, weithiau’n symud eu traed ag ystum a chydbwysedd, a weithiau’n llamu heb ddim.

Yn wir, gallwn weld llawer o debygrwydd ar draws hanes, nid i’r canlyniadau meddygol a achosodd y ‘plâu dawnsio’ yma o reidrwydd ond yr elfennau seicolegol, os nad cynhenid, a ysbrydolodd neu a orfododd bobl i ddawnsio tan iddyn nhw gwympo. Rydyn ni’n gweld hyn ar draws hanes – Maenadiaid Gwlad Groeg yr henfyd, y’u gelwir yn Bacchae mewn mytholeg Rufeinig, y mae eu henw’n cyfieithu’n llythrennol i ‘y sawl sy’n rêfio’. Dilynon nhw Dionysus (Duw y theatr, ymhlith pethau eraill) mewn cyflwr o wefr ecstatig o ddawnsio a meddwdod. Cawson nhw hefyd eu galw’n ‘fenywod gwallgof’ fel Frau Troffea – pam mai straeon am ‘fenywod gwallgof’ sydd bob amser yn goroesi hanes? A sut byddai hysteria dawnsio o’r fath yn edrych heddiw… a sut bydden ni’n ei labelu?

Mae Dance to the Bone yn adrodd hanes Joanne drwy gymysgedd hyfryd a hudolus o ysgrifennu newydd, dawns a cherddoriaeth fyw, gan greu noson ragorol yn y theatr. Mae Dance to the Bone yn anesmwytho ac yn codi calon, yn ysgogi sgwrs am effaith cysylltiadau dynol ac yn dathlu’r elfennau gwyllt sydd oddi mewn i ni.

Gan Dr Emily Garside

image
Dr Emily Garside