Odyssey ’84: Ysgolion a Gweithdai

Bydd dod i weld Odyssey ‘84 yn darparu disgyblion â ffordd unigryw o archwilio hanes cyfoes Cymru ac amser hollbwysig i wleidyddiaeth ac economeg fyd-eang. Oherwydd hyn, rydym yn cynnig sawl ffordd y gall ysgolion a cholegau ymgysylltu’n greadigol â’r cynhyrchiad.

Odyssey ’84 gan Tim Price (Nye) yw cynhyrchiad arbennig Theatr y Sherman hydref eleni. Adroddir am hanes streic y glowyr ym 1984 trwy lygaid glöwr sy’n cychwyn codi arian i’r NUM, a’i wraig. Gan ddefnyddio naratif Odyssey gan Homer fel fframwaith, mae John O’Donnell yn cwblhau antur epig sy’n mynd ag ef ar draws y byd, tra bod ei wraig Penny yn aros gartref yn cefnogi teuluoedd eraill sydd o dan bwysau’r sancsiynau economaidd, ac yn cwblhau ei thaith o ddeffroad gwleidyddol ei hun, a dod i ddeall gwerth pŵer cymuned.

40 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r frwydr a barodd flwyddyn yn parhau i fod ar feddyliau’r rheiny a fuodd yn sefyll ar y llinellau piced. Yn ogystal â brwydro i achub eu swyddi, buont yn brwydro am eu ffordd o fyw a’u cymunedau gwerthfawr hefyd, a oedd wedi’u cydblethu mor gadarn gyda’r diwydiant lle roeddent yn gweithio.

Pecyn Perfformiad a Gweithdy
Archebwch i weld y sioe rhwng yr 16eg a 26ain o Hydref a chymerwch ran yn un o’n gweithdai ‘Darganfod, Ystyried, Creu’, yn y theatr, cyn y perfformiad. Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer 15 i 30 o ddisgyblion Blwyddyn 10 a hŷn ac yn para am 90 munud.

Mae dewis o dri gweithdy ar gael, ac mae pob un ohonynt yn defnyddio dulliau creadigol i archwilio pynciau yn fwy manwl.

Dewis 1 – Celf a Phrotest

Gan gysylltu â nifer o bynciau’r cwricwlwm gan gynnwys Celf, Drama, Saesneg, Astudio’r Cyfryngau, Hanes a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, bydd y gweithdy hwn yn edrych ar sut mae celf wedi bod yn arf annatod ym mhrotestiadau gwleidyddol dros ganrifoedd. Gellir teilwra’r gweithdy hwn i gael ffocws penodol ar gelfyddydau gweledol, barddoniaeth, neu gelfyddydau perfformio.

Darganfyddwch nodweddion, effaith a hanes Celf Brotest.
Ystyriwch sut roedd Celf Brotest yn rhan o streic y glowyr.
Crëwch ddarn o Gelf Brotest eich hun amdano rywbeth sy’n bwysig i chi.

Dewis 2 – Y Cyfryngau a’r Glowyr

Gan gysylltu â nifer o bynciau’r cwricwlwm gan gynnwys Saesneg, Astudio’r Cyfryngau, Hanes a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, bydd y gweithdy hwn yn edrych ar rôl y cyfryngau wrth roi sylw i’r streic ac effaith hyn ar y cyhoedd o ran cydymdeimlo â’r glowyr, neu dangos cefnogaeth i’r llywodraeth.

Darganfyddwch fwy am sylw’r cyfryngau yn ystod streic y glowyr a’r rôl a chwaraeodd hyn wrth ddylanwadu ar farn y cyhoedd.
Ystyriwch yr effaith y byddai cyfryngau cymdeithasol wedi ei gael ar ddigwyddiadau, pe baent wedi digwydd heddiw, gan edrych ar y streic yng nghyd-destun mudiadau gwleidyddol cyfoes.
Crëwch adroddiadau newyddion o ddigwyddiadau allweddol y streic.

Dewis 3 – Adrodd Straeon Epig

Gan gysylltu â nifer o bynciau’r cwricwlwm gan gynnwys Saesneg, Drama, y Clasuron a Hanes, bydd y gweithdy hwn yn archwilio nodweddion allweddol o sut i adrodd straeon Epig a pham ei fod yn ffurf effeithiol, ar draws llenyddiaeth, barddoniaeth a drama.

Darganwyffwch fwy am nodweddion adrodd straeon Epig.
Ystyriwch effaith defnyddio dyfeisiau epig i ddyrchafu straeon cyfoes, trwy gyd-destun Odyssey ‘84.
Crëwch ddarn o stori Epig eich hun.

Ysgolion:

Gall ysgolion brynu tocynnau i weld Odyssey ’84 am £8 – £14.50 y disgybl (hanner y pris arferol), gyda thocynnau am becyn perfformiad a gweithdy yn costio ond £16 y disgybl. Rydym hefyd yn cynnig un tocyn athro/athrawes am ddim gyda phob 10 disgybl. Gallwch archebu drwy’r Swyddfa Docynnau ar 029 20 686900.

Ewch i weld

Gall ymweliad i weld Odyssey ‘84 fod yn gymwys i gael cymorth gan Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r Gronfa Ewch i Weld yn cynnig grantiau gwerth hyd at £1,000 er mwyn caniatáu i athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru fynd â’u dysgwyr allan i weld celfyddydau o safon mewn lleoliadau ar draws Cymru. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais ar gael ar ein tudalen gwefan Odyssey ‘84 – Cymorth Ewch i Weld.

Streic! 1984-1984 Strike!
Efallai y byddwch hefyd yn ystyried cyfuno’ch taith i Theatr y Sherman ag ymweliad i weld arddangosfa Streic! 1984-1985 Strike! Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr hydref hwn.