Nodiadau’r Cyfarwyddwyr

Uncategorized @cy

Gall y byd fod yn lle digon digalon weithiau. Gwleidyddiaeth amheus, systemau cymdeithasol annheg, a safbwyntiau oeraidd wrth i ni rannu’r byd â phobl eraill. Weithiau y tonic gorau yw chwerthin am y peth, a chwerthin arnom ni ein hunain. I mi, y tonic hwnnw oedd Marian.  Mae’r cast a minnau wedi cael amser gwych yn chwarae ac yn bod mor wirion â phosibl yn y sioe hon. Am gwpl o oriau bob dydd Gwener, rydyn ni wedi rhoi caniatâd i ni ein hunain fod yn blentynnaidd, yn wirion ac yn swnllyd. Rhywbeth nad ydym yn cael ei wneud mor aml ag y dymunwn. I lawer o’r cast, mae’r ddrama hon yn bell iawn oddi wrth rhai o’r dramâu mwy difrifol a chlasurol oedd yn fwy cyfarwydd iddynt, lle mae cynildeb yn rhan annatod o’r perfformiad. Ond na, ddim yma! Yma, mae’r cast yn cael eu gollwng yn rhydd. Yn serennu.  Yn creu llanast. Yn cadw reiat.

Mae ein Marian ni yn byw mewn byd lle na all gyflawni ei huchelgeisiau. Mae hi wedi tyfu i fyny yn casáu’r status quo. Yr unig ffordd i fynd i’r afael â’r sefyllfa yw byw bywyd dwbl a chreu arwr newydd – Robin Hood. Ynghyd â chriw o alltudion, mae Robin yn ymladd dros gyfiawnder, cydraddoldeb a pharch ac mae’n symbol o’r hyn mae’r bobl yn ei gredu. Efallai nad ein Merry Men ni yw’r rhai mwyaf peniog, ond mae nhw’n onest, yn ffyddlon ac yn awyddus i fyw bywyd ar ei orau ac ymladd am eu hawl i wneud hynny. Onid ydym ni i gyd eisiau byd fel yna? Os felly, ymunwch â’r criw llawen hwn.

Dafydd Weeks

Daeth Treasure Island at ei gilydd mewn ffordd eithaf anarferol. Dim ond pedair gwaith y cyfarfu’r cwmni eithriadol hwn o bobl ifanc fel ensemble llawn cyn i ni ddechrau ymarferion technegol – ond maent wedi cymryd at y sialens fel perfformwyr proffesiynol. Ni ddylem ddiystyru’r sgiliau actio a’r sgiliau bywyd y maent wedi’u hennill, wrth i’r stori fynd a ni o ben clogwyni gwyntog Gwlad yr Haf, i Ddoc Bryste ac yna ar draws y cefnfor i chwilio am drysor. Mae’r aur theatrig y mae’r bobl ifanc hyn wedi’i greu yn rhywbeth y gallan nhw a chithau fod yn falch iawn ohono, ac wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr, gyda’r holl heriau y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu yn eu bywydau.

Mae’n rhaid i mi ddiolch o galon i’r timau o diwtoriaid sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl, heb y gwaith caled a’r ymroddiad ni ellid bod wedi cyflawni dim o hyn, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.

Ac wrth eu canmol nhw, a’u cynhyrchiad, y cyfan sydd ar ôl i mi ei ddweud yw ‘mwynhewch y sioe’.

Timothy Howe